Carreg fedd Hugh Jones, Y Borth (1875-1918)
Carreg fedd Hugh Jones, Y Borth (1875-1918)
Disgrifiadau
Adeg ei farwolaeth, Hugh Jones oedd Capten agerlong o’r enw HEATHPARK. Roedd y llong yn cludo llwyth o fwyn o Bilbao i Maryport pan gafodd ei suddo gan dorpido ym Mae Biscay gan yr U 91 dan reolaeth Alfred von Glasenapp ar 5 Hydref 1918. Bu farw’r criw cyfan o 18. Corff y Capten Jones oedd yr unig un y daethpwyd o hyd iddo yn y môr a chafodd ei gladdu yn Bilbao.
Hugh Evans, Y Borth, a ddaeth â’r ffotograffau i sylw y Prosiect Llongau-U 1914-18 ac a roddodd ganiatâd i ni eu rhannu.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment