Bathodyn Clwb Rygbi Pontypridd, 20fed ganrif
Disgrifiadau
Ffurfiwyd Clwb Rygbi Pontypridd ym 1876, a chwaraeodd ei gemau yng nghaeau Ynysangharad a Thrallwn cyn symud i Barc Taff Vale ym 1890-1. Ym 1901 symudodd eto, y tro hwn i People's Park ym Mill Street, cyn dychwelyd i Ynysangharad ym 1904. Yn y pendraw, symudodd Pontypridd i Sardis Road ym 1971 i wneud lle i ffordd ddeuol.
Ers ymddangosiad Edward Llewellyn Treharne yng ngêm ryngwladol gyntaf Cymru yn erbyn Lloegr ar 19 Chwefror 1881, Mae Pontypridd wedi cynhyrchu chwaraewyr rhyngwladol arbennig. Yn eu mysg mae Russell Robins, a aeth i chwarae Cynghrair Rygbi ym 1958, Tom David a Bob Penberthy.
Chwaraewr enwocaf Pontypridd yw Neil Jenkins, a sgoriodd 1,049 o bwyntiau mewn 87 gêm brawf i Gymru a 41 pwynt mewn gemau prawf i Lewod Prydain ac Iwerddon.
Ffynhonnell:
Pontypridd RFC Official Website (<a href="http://www.ponty.net/a-brief-history-of-pontypridd-rfc-">www.ponty.net/a...)
David Parry-Jones, The Rugby Clubs of Wales (London, 1989)
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment