Gŵn y pencampwr paffio Dai Dower, 1950au [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Ganed Dai Dower yn Abercynon ym 1933. Ym 1952 daeth yn bencampwr Amatur a Phwysau Pryf Cymru a chynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd y flwyddyn honno. Ym mis Hydref 1954, wedi iddo fynd yn broffesiynol t flwyddyn gynt, daeth Dower yn Bencampwr Pwysau Pryf yr Ymerodraeth, ac yna ym 1955 enillodd bencampwriaeth Pwysau pryf Prydain, a oedd yn wag ar y pryd.
Yn ei ornest yn erbyn Nazzareno Giannelli, enillodd berfformiad trawiadol Dower deitl Pwysau Pryf Ewrop iddo. Ond ym mis Mawrth 1957, gwnaeth Dower her aflwyddiannus am deitl pwysau pryf y byd, a chollodd yn y rownd gyntaf Ychydig yn ddiweddarach collodd ei deitl Prydeinig.
(Ffynhonnell: Encyclopaedia of Boxing, 8th Edition, 1988)
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment