Llythyr oddi wrth cangen Sirol Môn, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, at Bwyllgor Amddiffyn Capel Celyn, 24 Chwefror 1957
Disgrifiadau
Anfonwyd y llythyr hwn at Elizabeth M. Watkin Jones, Ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn, gan gangen Môn, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, 14 Chwefror 1957. Sefydlwyd y Pwyllgor Amddiffyn ym mis Mawrth 1956, yn fuan wedi i Gorfforaeth Lerpwl gyhoeddi ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala.
Lansiodd y Pwyllgor ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau i foddi Cwm Celyn. Yn ogystal â chanfasio awdurdodau lleol, unigolion a chyrff cenedlaethol, trefnodd y Pwyllgor gyfres o gyfarfodydd, cynadleddau a ralïau protest ar draws gogledd Cymru ac yn ninas Lerpwl. Mae'r llythyr hwn yn un o blith cannoedd o lythyrau cefnogol a anfonwyd at y Pwyllgor gan wahanol sefydliadau ledled Cymru.
Yn y pen draw, er gwaethaf ymdrechion y Pwyllgor ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment