Poster yn hysbysebu Cyfarfod Cyhoeddus a drefnwyd gan Bwyllgor Amddiffyn Capel Celyn, Blaenau Ffestiniog, 19 Medi 1956
Disgrifiadau
Sefydlwyd Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn ym mis Mawrth 1956, yn fuan wedi i Gorfforaeth Lerpwl gyhoeddi ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. Lansiodd y Pwyllgor ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau i foddi Cwm Celyn. Yn ogystal â chanfasio awdurdodau lleol, unigolion a chyrff cenedlaethol, trefnodd y Pwyllgor gyfres o gyfarfodydd, cynadleddau a ralïau protest ar draws gogledd Cymru ac yn ninas Lerpwl. Mae'r poster hwn yn hysbysebu cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog, nos Fercher, 19 Medi [1956]. Ymhlith y siaradwyr roedd Moses Griffith, James Roberts a Miss Elizabeth M. Watkin Jones, Ysgrifennydd y Pwyllgor Amddiffyn. Er gwaethaf ymdrechion y Pwyllgor, ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965. Yn ogystal â cholli eu cartrefi a'u tiroedd, collodd trigolion Capel Celyn eu hysgol leol a'u capel. Datgloddiwyd rhai o'r cyrff yn y fynwent a'u symud i Lan-y-cil, a gorchuddiwyd y gweddill â choncrit.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment