Edward Morris Williams, Caernarfon (1915)
Disgrifiadau
Dyddiad: 6 Gorffenaf 1915
Trawsysgrif:
[llun Edward Morris Williams]
Mr E. Morris Williams, Caernarfon.
Darlun ydyw'r uchod o'r diweddar Mr Edward Morris Williams, mab Mr a Mrs Robert Williams, Marcus Street, Caernarfon, ac anwyl briod briod Mrs Morris Williams a drig gyda'i hewythr, Mr Owen Jones, London House, Nefyn. Fel y cofnodwyd genym yn y "Genedl" yr wythnos ddiwedda, collodd Mr Williams ei fywyd drwy ddisgyn yn ddamweiniol oddiar y llong "Waverley" perthynol i Gwmni Morrison, Newcastle, yr hon oedd ym Mhetrograd, ac ar yr hon yr oedd yn brif beirianydd. Nid oedd ond 33ain mlwydd oed.
Ffynhonnell:
Heb teitl. Y Genedl. 6 Gorff. 1915. 8.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment