Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll yn Iberia Newydd, Louisiana, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 25 Tachwedd 1863 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae John wedi derbyn llythyr oddi wrth ei rieni a darn ynddo oddi wrth T. J. Williams. Dywed amdano
'yr oudd yn dda genyf welad gwaith llaw yr hen Bererin'
Mae John yn dweud nad oes ganddynt gaplan yn eu catrawd hwy ond fod nifer yn y catrodau eraill ac mae'n sôn fod y pregethwyr duon yn fwy effeithiol na'r rhai gwynion
'i mau ganddyn hwy pregethwyr orlliw yn wir i maunt yn pregethu yn ardderchog i maunt yn tynu sylw y milwyr yn fwy nar pregethwyr ni i mai ganddynt ddoniau mawr i mau gystal geni welad y milwyr duon a gwelad y rhai gwynion'.
Yn ôl John, mae pethau'n weddol dawel ar hyn o bryd. Mae'n sôn fod rhai o'r gwrthryfelwyr wedi eu dal ond dywed hefyd fod eu rhengoedd yn isel iawn oherwydd yr holl golledion. Mae wedi clywed si fod eu brigâd nhw am fynd i Femphis i lenwi bwlch a bod y Cadfridog Burbrige yn gwneud ei orau i geisio eu symud yn ôl i fyny'r afon.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment