Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll ger Vicksburg, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 20 Mehefin1863 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Dywed John nad yw'n brysur iawn ar hyn o bryd
'yr ydwyf am gymeryd fy seibiant am spel...'
Bu'n chwilio am y bechgyn o Gymru ddoe a gwelodd fod Richard Owen yn iach ond fod Jonah Jones yn sâl eto.
Cafodd y bechgyn cyflog deufis ar y deunawfed o'r mis ond nid yw'n ddiogel iddo ei anfon adref mewn llythyr ar hyn o bryd. Hydera y byddant yn cyrraedd Vicksburg cyn hir ag wedyn bydd gwell trefn ar bethau.
Mae'r magnelau wedi agor ar y gelynion ers pedwar o'r gloch y bore ac mae John wedi clywed fod y Cadfridog Logan am ymosod ar gaer mwyaf allweddol y gelyn heddiw. Dywed
'gallwch feddwl fod yma grun dwrw...pe buaswn yn clowad y fath beth pan ouddwn gartref buaswn yn meddwl fod y byd ar ddarfod...'
Dywed hefyd fod llawer o fechgyn Cymru y '56 Ohio' wedi eu lladd a'u clwyfo ym mrwydr Chamion Hill.
Ymosododd gatrawd y '56th Ohio Infanty', y '29th Wisconsin Infantry' a'r '11th Indiana Infantry' ar fagnelfa y gwrthryfelwyr yn Champion ac fe enillwyd y safle. Ond, yn dilyn gwrth-ymosodiad, ail-gymrwyd y fagnelfa gan y gwrthryfelwyr. Cafodd y tair catrawd eu gyrru o'r maes gyda'r gwrthryfelwyr yn dyfod ar eu holau
'yr oedd y rebs yn dal i ddyfod yn mlaen fel bwtcheriaid wedi torchi ei llewis'.
Nid oedd gan yr Undebwyr ond dwy linell yn erbyn saith ac roedd brwydr ffyrnig iawn cyn i'r gwrthryfelwyr ildio eu tir. Cymrwyd tua dwy fil yn garcharorion ac yn ôl John
'ni welais y fath olygfa ar faus erioed yr oedd ein bechgin ni yn gymusg efo y rebs'
Dywed fod William Jones wedi marw ers amser.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment