Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll ger Vicksburg, at ei rieni a'i frodur yn Beaver Dam, Wisconsin, 9 Mehefin1863 [tudalen 1 o 2]
Disgrifiadau
Mae John wedi bod yn brysur ers ei lythyr diwethaf. Mae wedi clywed fod dognau'r gwrthryfelwyr wedi darfod ac mae'n disgwyl y byddant yn Vicksburg o fewn yr wythnos. Mae'n dweud fod ei fys yn gwella yn dda o ystyried fod y tywydd mor boeth.
Dywed fod y
'Nigers wedi bod yn ymladd yn ddewr thua Jackson, Mississippi y dyrnodia diwethaf cymerasant amriw o garcharorion bully for the Blacks i maunt yn sefull ei tir yn fur strait'.
Nid yw John yn meddwl fod y gwrthryfelwyr wedi cysgu ers tair wythnos oherwydd fod 'shells' yn cael eu taflu atynt o bob cyfeiriad.
Dywed
'i mau y cyflegrau yn rhuo yn byr drwm heno i maunt yn dweud fod y shells wedi lladd gwraig y Cad[fridog] Penperton[Pemberton] yn Vicks'.
Dywed John fod eu picedi nhw o fewn cant a hanner o lathenni i'w amddiffynfa a bod y ddwy ochr yn siarad â'i gilydd bob nos. Yn ôl John, dyma eiriau'r gwrthryfelwyr
'Say we got a new General Comanding us"
"What is his name?"
"General of starvation"
Mae John yn dilyn y timau bob dydd yn cario bwyd i'r fyddin.
[Yn y llythyr hwn, a nifer o'r rhai sy'n dilyn, y mae John Griffith Jones yn disgrifio brwydr Vicksburg. Cynhaliwyd y frwydr rhwng Mai a Gorffennaf 1863 ac mae llawer o haneswyr yn cydnabod fod buddugoliaeth yr Undebwyr yn drobwynt yng nghwrs y rhyfel cartref.]
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment