Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 18 Ionawr 1863 [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Mae John yn pryderu nad yw ei rieni yn derbyn ei lythyron yn rheolaidd gan fod y llong bost yn gadael mor anghyson. Mae'n dweud eu bod wedi 'chwthu yr hen fort i'r awyr ac wedi mynd yn ein holay i'r missis[ipi]' Maent ar hyn o bryd yn Napolion[?] yn disgwyl am orchymynion pellach.

Mae'n awyddus i dderbyn copi o 'Frank Leslie's Illustrated Newspaper' a fydd yn cynnwys llun o'r frwydr yn 'Fort Hind' oherwydd ei fod wedi gweld yr arlunydd ar ben coeden tra'r oeddynt yn cilio i'r coed i orffwys.

Mae John yn dweud fod y Capten wedi troi ei gefn a rhedeg pan yr oeddynt yng ngwres y frwydr a fod yr is-gapten wedi cymryd drosodd tan regi. Mae'n credu fod hanner y milwyr yn sâl ac mae'n dweud fod Jonah Jones yn dioddef o'r clwy melyn er ei fod yn gwella.

Mae John Griffith Jones yn diolch i'r Arglwydd nad yw yntau wedi dioddef o unrhyw glwy eto.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26067
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
18/1/1863
Gwelediadau:
584
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment