Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, ar fwrdd yr Ohio Belle, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 5 Ionawr 1863 [tudalen 1 o 2]

Disgrifiadau

Mae John yn cwyno nad ydynt wedi derbyn eu cyflog o hyd ac mae'n diolch i'w rieni am anfon arian ato. Mae'n disgrifio eu llety ar yr Ohio Belle ac yn sôn am ddiwrnod Nadolig
'diwrnod ein nadolig eythom oddi ar y boat ir lan oddeuty 10 milltir i fyny yr yazoo river or Miss ceysom ddigon o fwyd yn ein haversacks am 2 ddiwrnod bora nadolig yr oyddem yn frwydur linell o flayn ein gelynion oddety 7 millitr oddi wrth y badery [battery?]...'
Mae'n mynd ati wedyn i ddisgrifio yr un frwydr ac yn ei lythyr diwethaf [brwydr yn Nicholasville, Kentucky].
Mae hefyd yn dweud eu bod yn cael eu rhybuddio yn ddyddiol am fod yn barod i wynebu marwolaeth. Dywed wrth ei rieni
'i may yn debyig y gwyddoch yn well na ni am nifer y gollwyd yr wyf yn gwybod fod cryn lawar wedi gorfod gwyneby barn a tragwy[ddoldeb] yr ydum yn cael ein rhubuddio beynudd am hynu byddwch chwithay barrod canus yn yr awr ni thubioch y daw mab y dun.'

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26065
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
5/1/1863
Gwelediadau:
622
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment