Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, ar Afon Yazoo, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 2 Ionawr 1863 [tudalen 1 o 8]

Disgrifiadau

Ysgrifenna John o fwrdd llong yr Ohio Bell. Mae'n diolch i Dduw ei fod yn fyw ac yn iach ac mae'n dweud na chafodd gyfle i ysgrifennu yn gynt.

Dechreuasant o Femphis ar fore Sul y 21ain o Ragfyr ac wedi tri diwrnod o deithio, cawsant orchymyn i fod yn barod i adael y cwch o fewn yr awr er mwyn llosgi pont a oedd yn rhedeg o Vicksburg i Texas. Rhaid oedd iddynt gario 'two dayes ration and a blanket and 60 round of cartridge'. Mae John yn disgrifio digwyddiadau'r dyddiau nesaf
'cychwynasom oddi wrth y boat oddeyty 9 or gloch y bore cyrraedd y bont erbyn 9 y nos ceysom ordors i wneyd ein gorweddla ora y gallam yr oydd y clipo[?] o fewn 25 lath ini ar Warhouses wedi ei llenwi hefo cotwm callewch feddwl ein bod yn gwneud gwelu phur esmwyth y noson hono ni chysgais ddim gwell erioed na ddarum yn nghanol y bale coton pan wawriodd y bore ceusam orchymun i gario ein gwlau ir bont oedd yn umul ac yr oudd General Burbridge yno hefo ni yno rhouth Burbridge y bont ar dan ei hun yr oudd y bont yn bhur fawr rhouthom bob dim ar dan a fasa yn cyna...'

Mae John hefyd yn sôn fod y gwŷr meirch wedi rhoi tref ar dân a'u bod wedi darganfod 24 gwn mewn un tŷ y noson honno. Roedd gwerth miloedd ar filoedd o gotwm wedi ei losgi hefyd.

Wedi dychwelyd i'r cychod, aethant i lawr y Mississipi am tua 25 milltir cyn troi oddi arni ar hyd yr Afon Yazoo am 10 milltir. Glaniodd y milwyr yno a chychwyn unwaith eto ar daith gyda gwerth dau ddiwrnod o fwyd. Buont yn teithio tan un o'r gloch y bore ac wedyn gorwedd ar eu harfau tan y bore cyn sylweddoli eu bod yn wynebu'r gelyn

'furfiwyd yr holl Divisions yn line off battle y bora yr oyddum ni ar y reserve ar y right wing ac fellu ceusom ni spario mund i wynab y tan mi fuont yn ymladd am part o ddau ddiwrnod yr ouddum yn y golwg mi gafodd amriw ei lladd ai clwyfo yr oydd yno le ofnadwy i ddynion ei wyneby buom yno yn gorfadd ar ein harfay am 5 diwrnod a 5 noson...yr oydd y shels yn disgyn on cwmpas yn bhur amal disgynodd un o fewn phump llath ir Colonel Gupper, yr ydum wedi retreatio yn ein hola i'r bont neithiwr nid wyf yn gwybod beth oudd yr achos yr oyddum ar gychwyn i rhiw cyfeiriad arall i le nid wyf yn siwr i maunt wedi gwneud ei forts ar ben y mynyddoedd ychal ac wedi tori y coud i lawr ar draws ei gilydd yr oydd y lle yn ddychrynllud i feddwl ei wynebu hefo infantry beth bynnag.'

[Brwydr Nicholasville, Kentucky]

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26057
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
2/1/1863
Gwelediadau:
770
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment