Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 12 Hydref 1862 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Ers ei lythyr diwethaf, mae John wedi cerdded deugain milltir. Cymerodd y siwrnai bedwar diwrnod ac roedd y brigâd cyfan, 10,000 o ddynion i gyd, yn teithio gyda'i gilydd. Maent yn awr o fewn deugain milltir i Lexington, Kentucky
'ni welais erioed y fath le nid ous ond coyd a brynia yr ydym yn meddwl aros yma am spel yr ydym wrth ochor y lick river'.
Maent yn dal carcharorion yn ddyddiol gan gynnwys dynion a oedd yn mynd â 60 o wartheg tewion i'r fyddin wrthryfelgar. Maent am fwyta'r gwartheg heddiw.
'i may y dynion mewn carchar o dan gard mi roydd yma 500 or rebels wythnos i heddiw'
Mae John yn nodi fod y gwrthryfelwyr wedi llosgi pont gwerth mil o ddoleri yr wythnos ddiwethaf ond eu bod wedi ceisio dianc ar draws ei gilydd pan y clywsant fod y fyddin ar ei ffordd.
Mae John yn dweud na fyddai'n cynghori unrhyw un i ymuno â'r fyddin heb feddwl am y peth oherywdd fod nifer wedi difaru gwneud hynny ar ormod o frys. Ond, mae hefyd yn dweud ei fod ef yn hapus yn ei waith.
Mae'n sôn am gynhaeaf llwyddiannus ei deulu ac yn gobeithio y tro nesaf y bydd yno i helpu.
Ar ben y llythyr hwn mae llun printiedig a chapsiwn sy'n darllen
'The Soldier's Dream of Home'.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment