'Ruins of Lamphey Court, Pembrokeshire', delwedd a ddaeth o gyfnodolyn, 'The Gentleman's Magazine', wedi'i ddyddio Chwefror 1800
'Ruins of Lamphey Court, Pembrokeshire', delwedd a ddaeth o gyfnodolyn, 'The Gentleman's Magazine', wedi'i ddyddio Chwefror 1800
Disgrifiadau
Lansiwyd y cyfnodolyn 'The Gentleman's Magazine' ym 1731 gan Edward Cave, mab crydd o Swydd Warwick. Cafodd ei syniad am gyfnodolyn yn trafod ystod eang o ddiddordebau ei wrthod gan sawl cyhoeddwr yn Llundain, felly cyhoeddodd ef ei hun. Ei gyfnodolyn ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r gair cylchgrawn 'magazine', a dyma'r cylchgrawn diddordeb cyffredinol cyntaf, yng nghyd-destun modern y gair.
Roedd The Gentleman's Magazine yn trafod pob mathau o bynciau, o adroddiadau gwleidyddol i farddoniaeth a newyddion am fasnach. Roedd yn boblogaidd, a daeth i ben ym 1907.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment