Skip to main content

Dyddiadur cerddwr a darluniau o'r 19eg ganrif

Disgrifiadau

Mae'r dyddiadur anhysbys hwn yn cynnwys amrywiaeth o wawdluniau a darluniau hardd o olygfeydd yng ngogledd Cymru. Y teitl yw 'Rough notes of a few days walk in Wales, by one of the walkers'.

Tudalen 3: Cartwnau sy'n pethyn i ymgais aflwyddiannus i ddod o hyd i le i aros ym Metws-y-coed.
Tudalen 4: Darlun o Dafarn Rhaeadrau Conwy.
Tudalen 5: Golygfa o Foel Siabod o Raeadrau Conwy.
Tudalen 6: Darlun a'r teitl 'A talk with the artists on the Conway'.
Tudalen 7: Darlun a'r teitl 'A peep into the Dolwyddelan Valley'. Tynnwyd ar 10 Medi 1862.
Tudalen 8: Dau ddarlun o olygfeydd yng ngogledd Cymru. Mae'r un uchaf wedi'i dynnu o'i gof (wedi'i farcio a "*").
Tudalen 9: Dau ddarlun o olygfeydd yng ngogledd Cymru, y ddau wedi'i dynnu o'i gof. Castell Dolwyddelan yw'r llun uchaf.
Tudalen 10: Golygfa yn edrych tuag at Yr Wyddfa, fe'i dynnodd tra'r oedd yn paratoi ar gyfer dringo'r llethr sydd o'i flaen.
Tudalen 11: Dau ddarlun yn dangos dechrau taith yr arlunydd i fyny'r Wyddfa. Tynnwyd y ddau o'i gof.
Tudalen 12: Golygfa o'r llethr olaf tuag at gopa'r Wyddfa, 11 Medi 1862.
Tudalen 13: Golygfa o anheddau'r arlunydd am y noson - ar gopa'r Wyddfa yn ól pob tebyg(?).
Tudalen 14: Dwy olygfa yn dangos taith gerdded yr arlunydd i Gaernarfon. Mae'r ddwy wedi'u tynnu o'i gof (dyna pham mae'r "*").

Owner:
National Museums & Galleries of Wales
Crëwr:
Unkown
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
GTJ27622
Eitem wedi’i llwytho:
29/7/2009
Date originally created:
9/1862
Gwelediadau:
1147
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment