Yr Ystafell Fechan Gedrwydd, Tŷ Tredegar, Casnewydd, 17eg ganrif
Disgrifiadau
Ystafell fechan oedd hon ble dodid y cofroddion a gesglid o wahanol rannau o'r byd gan deulu'r Morganiaid. Fe'i hadeiladwyd yn gyfan gwbl o bren cedrwydd, sy'n cael ei ddefnyddio oherwydd ei nodweddion gwarcheidiol. Roedd 'Y Daith Fawr' yn ddifyrrwch poblogaidd ar gyfer dynion ifainc cyfoethog; anfonwyd hwy gan eu teuluoedd o amgylch Ewrop ar daith addysgol o brifddinasoedd hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol y cyfandir. Byddai casgliad o gofroddion o'r daith yn aml yn cael eu rhoi mewn ystafell fechan neu gabinet wedi ei wneud i'r pwrpas. Roedd yn ddull arall a ddefnyddiai'r Morganiaid i arddangos eu cyfoeth a'u dylanwad.
Byddai'r gwrthrychau y dymunent i'r gwesteion eu gweld yn cael eu rhoi mewn cabinetau blaen gwydr iddynt. Efallai bod dogfennau pwysig, a brethynnau drudfawr oedd angen eu diogelu rhag gwyfynod, llwydni a lleithder yn cael eu rhoi yn y cypyrddau eraill. Wedi ei lleoli ar ddiwedd cyfres o ystafelloedd teuluol cysylltiedig 'i gilydd a chyda ffenestri barrau dwbl, roedd yn amlwg yn cael ei defnyddio i gadw ac arddangos gwrthrychau gwerthfawr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment