Clwb pêl-droed Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1897-8
Clwb pêl-droed Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1897-8
Disgrifiadau
Ffurfiwyd timau pêl-droed gan gwahanol golegau Prifysgol Cymru tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafwyd y timau mwyaf llwyddiannus ym Mangor ac Aberystwyth a cafwyd llawer o gemau ffyrnig a chystadleuol rhwng y ddau goleg. Yma ceir ffotograff o dîm Aberystwyth sy'n dangos eu capten Leigh Richmond Roose, gôl-geidwad dawnus a chwaraeodd yn ddiweddarach i rai o dimau mwyaf Lloegr ar y pryd, gan gynnwys Everton ac Aston Villa. Cynrychiolodd ei wlad hefyd gan ennill 24 cap dros Gymru.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment