Skip to main content

Llythyr Pab, wedi'i gyhoeddi gan Pab Gregory XI, Avignon, Ffrainc, 1373 (delwedd 1 o 2)

Disgrifiadau

Mae Llythyr Pab (Papal Bull) yn y bôn yn gyfathrebiad ysgrifenedig, wedi ei gyhoeddi gan Bab, fel arfer yn rhoi manylion am ganiatá braint, neu'n rhoi cyfarwyddiadau. Mae'n lythyr ffurfiol, wedi ei drosglwyddo'n agored, ac mae ei enw'n dod o'i sêl blwm, y 'bulla', ar y gwaelod i ddangos ei ddilysrwydd. Tan yr 11eg ganrif roedd Llythyron Pab wedi'u hysgrifennu ar bapyrws, felly nid oes llawer ohonynt wedi goroesi. Mae enghreifftiau diweddarach, ar femrwn, wedi parhau'n well.

Cafodd yr enghraifft hon ei gyhoeddi gan Bab Gregory XI ym 1373, i gefnogi Brodyr La Scarzuola. Cafodd Gregory XI ei eni'n Pierre Roger de Beaufort ym 1331, ac ef oedd y Pab olaf yn Avignon, gan ddychwelyd y Babaeth i Rufain ym 1305, er mwyn osgoi'r cweryla cyson rhwng y teuluoedd Rhufeinig cryf a oedd wedi creu llawer o Babau cynharach, ac a oedd yn gobeithio cynnal eu nerth. Y flwyddyn wedi iddo ddychwelyd i Rufain, bu farw Gregory XI, a tra bod olynydd yn cael ei ddewis yn Rhufain, gwnaeth grŵp o gardinaliaid yn Avignon eu dewis eu hunain, Clement VII. Felly dechreuodd y Sgism Fawr, a achosodd teimladau cryf yn erbyn y Babaeth, ac a ddatblygodd i mewn i Ddiwygiad Protestanaidd y 16eg ganrif.

Owner:
Gladstone's Library
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Gladstone
Copyright Details:
Llyfrgell Gladstone 2006
Publisher Ref:
GTJ76944
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
1373
Gwelediadau:
2079
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment