Diwedd Plas Cwm Elan, Cwm Elan, 1904
Diwedd Plas Cwm Elan, Cwm Elan, 1904
Disgrifiadau
Darlun trist o blasty gwag Cwm Elan gyda dyfroedd cronfa ddŵr y Garreg Ddu'n cyrraedd blaen yr adeilad. Treuliodd y bardd Percy Bysshe Shelley gyfnod yma ym 1811, a defnyddiwyd y plasty fel llety gan uwch-beirianwyr yn ystod cyfnod adeiladu'r argae a'r gronfa ddŵr. Er bod y llun cerdyn post hwn o fis Gorffennaf 1904 yn awgrymu yr arhosodd y plasty mewn un darn, y gwir yw iddo gael ei ddymchwel cyn boddi'r safle.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment