Skip to main content

Engrafiad o Gastell Dolforwyn, 1786

Disgrifiadau

Golygfa o adfeilion Castell Dolforwyn, ger Aber-miwl yn sir Drefaldwyn. Engrafiad gan 'Sparrow' cyhoeddwyd ar Ebrill 24ain, 1786 gan S.Kooper.

Adeiladwyd Castell Dolforwyn rhwng 1273-77 gan Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf) ar safle strategol ar ffin eithaf ei diriogaeth, uwchlaw arglwyddiaeth Seisnig Trefaldwyn. Mae'r castell hirsgwar hwn yn sefyll ar grib ar hyd dyffryn Hafren, ac mae'n amlwg iddo gael ei gynllunio'n arbennig i gadw golwg ar ffin dde-ddwyreiniol tiriogaeth Llywelyn. Pan ddechreuwyd ar y gwaith adeiladu, ysgrifennodd y Brenin Edward I at Llywelyn ym 1273, yn ei wahardd rhag codi'r castell. Atebodd y tywysog gan nodi nad oedd angen gofyn am ganiatâd y brenin i godi cadarnle yn ei dywysogaeth ef ei hun. Ym 1277, fodd bynnag, cipiwyd Dolforwyn gan Roger Mortimer yn dilyn gwarchae a barhaodd am bythefnos. Rhoddwyd y castell yn nwylo'r teulu'r Mortimer, un o deuluoedd mwyaf pwerus y Fers. Er i'r castell gael ei gynnal a'i gadw am rai blynyddoedd, erbyn 1398 roedd yn adfail.

Ffynhonnell:
http://www.castlewales.com/dolforn.html

Owner:
Powys County Archives Office
Crëwr:
Sparrow
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Powys
Copyright Details:
Archifdy Sir Powys 2002
Publisher Ref:
GTJ61146
Eitem wedi’i llwytho:
16/2/2010
Date originally created:
1786
Gwelediadau:
848
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment