Adfeilion Castell Trefaldwyn, 1786
Disgrifiadau
Olion prin Castell Trefaldwyn wedi eu portreadu'n sefyll yn uchel uwchben y ffordd o'r gogledd i mewn i dref fechan Trefaldwyn. Mae eglwys Trefladwyn o'r 13eg ganrif, a gysegrwyd i Sant Nicolas, ar y chwith. Engrafiad gan Sparrow cyhoeddwyd ym 1786 gan S. Hooper.
Dechreuwyd adeiladu Castell Trefaldwyn ym 1233 gan Harri III, ar safle hen gastell tomen a beili. Codwyd y castell yn ystod ymgyrch Harri III yn erbyn Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) ac fe'i roddwyd yn nwylo Hubert de Burgh ym 1228. Roedd y castell yn nwylo'r teulu Mortimer yn ystod y 14eg ganrif. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, ymladdwyd brwydr fawr yn Nhrefaldwyn ym mis Medi 1644, gyda hyd at 9,000 o filwyr yn cymryd rhan yn yr ymladd. Ildiodd y castell i'r Seneddwyr ac fe'i dinistriwyd ymron yn llwyr yn dilyn y rhyfel ar orchymyn y Senedd.
Ffynonellau:
http://www.castlewales.com/montgom.html
Cadw, 'A Nation Under Siege: The Civil War in Wales, 1642-48' (London, HMSO, 1991).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment