Skip to main content

'Silent monitor' a ddefnyddid gan Robert Owen i ddisgyblu'r gweithwyr ym Melinau Cotwm New Lanark, Yr Alban [delwedd 1 o 2]

Disgrifiadau

Yr enw a roddid ar y blwch bychan pedair-ochr hwn oedd y 'silent monitor', ac fe'i defnyddiwyd gan Robert Owen er mwyn disgyblu'r gweithwyr ym Melinau New Lanark.

Nid oedd Robert Owen yn credu y dylid disgyblu pobl trwy eu cosbi'n gorfforol ac felly, aeth ati i ddyfeisio ei system ei hun i gadw trefn ymhlith y gweithwyr ym Melinau New Lanark. Byddai'r blychau pren hyn ('silent monitors') yn cael eu hongian wrth ymyl pob gweithiwr yn y felin. Roedd lliw gwahanol wedi ei baentio ar bob un o'r bedair ochr, ac roedd y lliwiau hyn oll yn cynrychioli ymddygiad y gweithiwr unigol. Roedd y lliw du yn cynrychioli ymddygiad 'gwael'; glas yn cynrychioli ymddygiad 'gweddol'; melyn yn cynrychioli ymddygiad 'da'; a gwyn yn cynrychioli ymddygiad 'ardderchog'. Byddai arolygydd y felin yn gyfrifol am droi'r blwch bob dydd, gan arddangos y lliw a oedd yn cyfateb i ymddygiad y gweithiwr y diwrnod hwnnw. Yna, byddai nodyn yn cael ei wneud o liw'r blychau ar ddiwedd pob diwrnod gwaith.

Owner:
Robert Owen Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Robert Owen
Copyright Details:
Amgueddfa Robert Owen 2002
Publisher Ref:
GTJ23583
Eitem wedi’i llwytho:
15/2/2010
Date originally created:
1805-1815
Gwelediadau:
12882
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment