Skip to main content

Cadeirlan Aberhonddu: carreg gresed canoloesol

Disgrifiadau

Darganfuwyd y garreg gresed hynod hon nifer o flynyddoedd yn ôl yn gorwedd wedi'i hesgeuluso mewn gardd ym Mhendre, Aberhonddu, ac fe'i dychwelwyd i Eglwys y Priordy yn Aberhonddu wedi'i iddi gael ei hatgyweirio. Mae tystiolaeth yn dangos ei bod yn perthyn yn wreiddiol i Eglwys y Priordy, o'r lle y symudwyd hi oddi yno rhyw drigain mlynedd yn ôl.
Mae'r gair 'cresed' yn deillio o'r hen air Ffrengig 'craicet', 'craisset' neu 'cresset', cwpan o fetel neu ddeunydd arall a fachwyd ar bolyn i greu llusern gludadwy. Roedd 'carreg gresed' yn garreg fflat gyda thyllau siâp cwpan, gyda phob un yn cael eu defnyddio i ddal gwêr a wic a losgwyd i gynhyrchu golau. Fe'u cynnwyd yn yr Eglwys ganol nos, pan fyddai'r mynachod yn dod i'w boreol weddi. Roedd yn beth cyffredin darganfod cerrig o'u bath ger pyrth neu mewn corneli lle'r oedd pobl yn pasio'i gilydd yn aml, ac yn Nortur y Mynachod. Roedd hyn yn ffordd gyffredin o oleuo eglwysi yn ystod y Canol Oesoedd. Er bod rhyw dair ar ddeg carreg gresed yn parhau mewn gwahanol rannau o Loegr, carreg gresed Aberhonddu yw'r unig un y gwyddys amdani yng Nghymru, a'r enghraifft orau i'w darganfod hyd yma. Carreg siâp petryalog ydyw sy'n mesur 23.5 modfedd wrth 21 modfedd, ac mae'n 6 modfedd o drwch. Mae ganddi ddeg cwpan ar hugain wedi'u trefnu mewn pum rhes baralel, gyda chwe chwpan ymhob rhes (14 cwpan yn fwy nag yng Nghadeirlan Carlisle, lle lleolir y garreg gresed fwyaf i'w darganfod cyn un Aberhonddu) ac mae diamedr a dyfnder pob cwpan tua 3 modfedd. Mae wedi'i gwneud o garreg frodorol, sydd wedi'i hollti mewn dau le, o ganlyniad i ergydion yn ôl pob tebyg.
Ffynhonnell: Canolfan Dreftadaeth Cadeirlan Aberhonddu

Owner:
Brecon Cathedral Heritage Centre
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Canolfan Dreftadaeth Eglwys Gadeiriol Aberhonddu
Copyright Details:
Canolfan Treftadaeth Eglwys Gadeiriol Aberhonddu 2001
Publisher Ref:
GTJ23477
Eitem wedi’i llwytho:
15/2/2010
Date originally created:
1/1/1000 - 31/12/1599
Gwelediadau:
3842
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment