Syr Ifor Williams (1881-1965), 27 Chwefror 1958
Syr Ifor Williams (1881-1965), 27 Chwefror 1958
Disgrifiadau
Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles.
Ganed Ifor Williams (1881-1965) yn Nhre-garth, Sir Gaernarfon. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, ac yn aelod o staff yn Adran y Gymraeg. Derbyniodd Gadair bersonol ym 1920 a daeth yn Bennaeth ar yr Adran ym 1947. Prif faes ei ysgolheictod oedd canu cynnar Cymraeg a chyhoeddodd nifer o olygiadau o'r testunau hyn. Ymhlith ei gyhoeddiadau mwyaf adnabyddus, mae 'Canu Llywarch Hen' (1935), 'Canu Aneirin' (1938) a 'Canu Taliesin' (1960).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment