Skip to main content

Cyfres o saith llythyr a ysgrifennwyd rhwng 18 Medi 1924 a 3 Hydref 1932 gan Uwcharolygydd Baddondai a Champfa Dinas Caerdydd at Rabbi Asher Grunis, ynghylch y Mikvah (baddon defodol)

Disgrifiadau

Anfonwyd y llythyrau hyn gan Uwcharolygydd Baddondai a Champfa Dinas Caerdydd yn Guildford Crescent at Rabbi Asher Grunis mewn ymateb i gwynion:
• Baddonau i gael eu newid ar ôl pob ymdrochwr;
• Oriau agor yn ystod misoedd y gaeaf (8yb hyd at yn amrywio rhwng 4 i 7 yh, dydd Llun i ddydd Sadwrn);
• Nid ydynt ar gael wedi 4 yp ar ddyddiau Mawrth a Gwener gan fod dosbarth i ddynion i'w gynnal y Gampfa ;
• Ar gael rhwng 5-30 yb a 7 yh o ddydd Llun i ddydd Mercher yn ystod y cyfnewidiadau.
Mae'r llythyr olaf hwn oddi wrth Faddondai a CHampfa Dinas Caerdydd.
Ganwyd Rabbi Asher Grunis yn Pietrokov yng Ngwlad Pwyl yn 1877. Roedd yn blentyn disglair ac yn bedair ar bymtheg oed fe'i penodwyd yn Rabbi Wilczyn yng Ngwlad Pwyl. Priododd Hannah Baila yn1896 a chawsant saith mab ac un merch. Yn 1921 fe'i penodwyd yn Rav Caerdydd, gan oruchwylio sicrhau bod deddfau dietegol crefyddol Iddewg yn cael eu rhoi ar waith yn gywir. Daeth pump o'r meibion ac un ferch gyda'u rhieni i Gaerdydd, ac aeth un mab, Hirsch, ymlaen i fod yn weinidog yng nghymunedau Bangor a Betws-y-Coed cyn y rhyfel. Bu Rabbi Grunis yn llwyddiannus yn ei ymgyrch i ganiatáu i blant Iddewig gael gadael yr ysgol yn gynnar yn y gaeaf ar y Sabath, ac i rwystro myfyrwyr Iddewig gael eu gorfodi i sefyll arholiadau ar ddyddiau Sadwrn a dyddiau sanctaidd Iddewig. Ymdrechodd i sicrhau bod bwyd kosher ar gael i garcharorion Caerdydd gydol y flwyddyn hefyd ond ni fu'n llwyddiannus yn hyn o beth. Bu farw ym mis Gorffennaf 1937 ac y mae ef a'i wraig wedi eu claddu ym mynwent Iddewig Highfields Jewish/ Cafodd un o'i weithiau mwyaf, yn dwyn yr einw P’ri Asher (Ffrwythau Asher), ei gyhoeddi wedi ei farwolaeth. [Ffynonellau: Tudalen 43 o Bimah rhifyn 18 (Pesach 5759 - 1999) a rhagarweiniad i Fruits of Asher gan Rabbi Asher Grunis a'i fab Iyeleg Grunis]
O archifau teulu Grunis, sydd i'w cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol (Campws Edward J. Safra) yn y Brifysgol Hebraeg, Jerwsalem.

Owner:
The Grunis family archives
Crëwr:
City of Cardiff Baths and Gymnasium
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
6/3/2019
Date originally created:
18/9/1924
Gwelediadau:
858
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment