Y Brigantîn 'Brothers' yn Netpool, ger Aberteifi, c. 1890au
Disgrifiadau
Y Brigantîn 'Brothers' oedd un o'r llongau mwyaf enwog i gael eu hadeiladu yn Aberteifi. Ar ôl blynyddoedd o wasanaeth, cafodd ei hesgeuluso gan nad oedd digon o lwythau ac fe'i gadawyd i bydru yn Netpool.
Gellir gweld iard gychod Pinog yn Llandudoch yn y pellter, ble roedd dwy long, 'Eliza' ac 'Ashore' yn ôl pob tebyg, yn dadlwytho.
Roedd y rhan fwyaf o ddiwydiant adeiladu llongau Aberteifi wedi ei leoli yn ac o amgylch Netpool. Ym 1839, dechreuodd Cyngor Tref Aberteifi godi tâl ar adeiladwyr llongau am ddefnyddio tir Corfforaethol a rhannwyd Netpool yn bum llain, a werthwyd mewn ocsiwn yn y Llew Du, Aberteifi, ar 8 Ebrill 1839.
Ffynhonnell:
W. J. Lewis, Gateway to Wales: A History of Cardigan (Caerfyrddin, 1990)
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment