Skip to main content

Glanfa Fasnachol, Aberteifi, c. 1860au

Disgrifiadau

Mae'r ddau adeilad amlwg ar y doc yn Aberteifi yn sefyll fel cofadeiliau i hanes morwrol cyfoethog y dref.

Cafodd stordy Pen-y-Bont (ar y dde) ei adeiladu fel stordy ym 1745. Ym 1785, prynwyd yr adeilad gan y brodyr Thomas a John Davies, a oedd i ddechrau yn ymwneud â'r fasnach lechi yng Nghilgerran a chyflenwad calch a glo mân i'r ardaloedd cyfagos. Roeddynt hefyd yn gwasanaethu'r diwydiant llongau yn yr ardal gyda llofft ar gyfer gwneud hwyliau a ffowndri.

Erbyn troad y 19eg ganrif, roedd y brodyr Davies hefyd wedi prynu llongau ac yn mewnforio coed i ddiwallu anghenion y diwydiant adeiladu. Hwy oedd perchnogion yr Albion, y llong a gludodd 27 o deuluoedd o Geredigion i New Brunswick ym 1819 i sefydlu gwladychfa Cardigan.

Pan dynnwyd y ffotograff hwn, ŵperchennog stordy Pen-y-Bont oedd ŵyrŵThomas Davies, a elwid yn Thomas Davies hefyd . Yr ŵyr oedd perchennog Cwmni Masnachol Aberteifi Cyf., a sefydlwyd ym 1876 ac a ddeliai mewn coed, calch, glo mân, defnyddiau adeiladu a llwythau cyffredinol.

Roedd Thomas Davies, perchennog Cwmni Masnachol Aberteifi, hefyd yn gyfarwyddwr Rheilffordd Hendy-gwyn ar Daf a Dyffryn Taf ac yn ffigwr amlwg yn Aberteifi, gan wasanaethu ar Gyngor y Dref am ddeugain mlynedd a dal swydd fel maer chwe gwaith.

Defnyddiwyd y stordy arall (ar y chwith) ym 1860au gan Thomas Edwards, gwneuthurwr hwyliau lleol. Wrth i'r diwydiant adeiladu llongau ddatblygu yn Aberteifi, ymddangosodd diwydiannau atodol fel gwneud hwyliau yn y dref hefyd. Mewnforiwyd lliain hwyliau o Fryste a gwnaed yr hwyliau mewn llofftydd uchel oherwydd eu maint.

Ffynhonnell:
W. J. Lewis, Gateway to Wales: A History of Cardigan (Caerfyrddin, 1990)

Owner:
Tony Bowen (Private Collection)
Crëwr:
unkown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Tony Bowen (Casgliad Preifat)
Copyright Details:
Tony Bowen (Private Collection) 2007
Publisher Ref:
GTJ73771
Eitem wedi’i llwytho:
15/2/2010
Date originally created:
1855-1865
Gwelediadau:
1953
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment