Y badlong 'Eliza Ann' o Aberteifi yn dadlwytho yn Nant-y-Ferwig, 1910
Y badlong 'Eliza Ann' o Aberteifi yn dadlwytho yn Nant-y-Ferwig, 1910
Disgrifiadau
Adeiladwyd 'Eliza Ann' yng Nghei Bach, Aberteifi, ym 1877. Slwp oedd hi i ddechrau (cwch hwylio un hwylbren gyda phrif hwyl a hwyl grog) yn pwyso 34 tunnell, ond ym 1904 fe'i hailrigiwyd fel badlong (cwch hwylio dau hwylbren gyda hwylbren ôl gam ymlaen o'r llyw ac yn llai na'r hwylbren blaen).
Suddwyd 'Eliza Ann' trwy gael ei saethu gan long danfor Almaenig 40 milltir i'r de-ddwyrain o Oleudy Lizard yng Nghernyw yn Awst 1917.
Ffynhonnell:
J. Geraint Jenkins, Maritime Heritage: The Ships and Seamen of Southern Ceredigion (Llandysul, 1982)
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment