Skip to main content

Cylchlythyr Swyddog Heddlu Abergwaun at Bennaeth yr Heddlu, Llangynidr, 1919

Disgrifiadau

Mae'r ddogfen hon yn cynnwys un dalen o bapur, oddeutu 8 modfedd wrth 6 modfedd, sydd wedi cael ei phlygu yn hanner ar draws ei lled, ac yna ei phlygu ddwywaith eto er mwyn creu siap pedair ochrog 3.2 modfedd wrth 2.8 modfedd. Nid yw'n ymddangos i fod wedi ei selio. Mae'n dangos cyfeiriad 'Chief of Police, Llangunider, Breconshire' ac fe'i postiwyd o Abergwaun ar 14 Mawrth 1919. Mae'r neges oddi mewn gan Swyddog yr Heddlu ('Constabulary Officer'), dyddiedig 13eg Mawrth 1919 yn darllen: 'Sir, Referring to the Circular from this Office dated 28th February last I beg to inform you that Paddy Flynn described therein has been arrested. Thanks for your attention. W. Evans, Supt.' Pennaeth yr Heddlu ym mhentref Llangynidr ar y pryd oedd yr unig gwnstabl, P.C. Henry Edward Jones, oedd wedi bod yn gwasanaethu yno oddi ar 1913. (Yn ddiweddarach bu'n Rhingyll yn yr Heddlu ym Mrynmawr am sawl blwyddyn.) Mae'n ymddangos bod y ddogfen wedi goroesi ymhlith papurau'r teulu oherwydd bod rysáit ar gyfer cadw cig wedi ei ysgrifennu ar ei gefn, yn hytrach nag oherwydd bod iddo unrhyw arwyddocad hanesyddol. Mae'n codi cwestiynau diddorol ynghylch y cyd-destun yr ysgrifennwyd ef ynddo. A oedd yn rhaid i uwch-arolygydd Abergwaun ysgrifennu llythyrau o'r fath at bob cwnstablaeth ar hyd a lled De Cymru, neu a oedd yna gyswllt arbennig gyda Llangynidr? A phwy oedd Paddy Flinn?!

Owner:
Shirley Vinall
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
28/2/2019
Date originally created:
13/3/1919
Gwelediadau:
772
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment