Skip to main content

Carcharorion rhyfel a chi ar llong danfor U 91

Disgrifiadau

Yng ngwanwyn 1918, roedd llong danfor U 91, dan reolaeth Alfred von Glasenapp, yn patrolio sianel Iwerddon. Ar 26 Ebrill, daeth y U 91 ar draws yr ETHEL, sgwner bren, 19 milltir oddi ar arfordir Sir Benfro, yn cludo cargo o lo o Gaerdydd i New Ross. Gwelodd criw’r ETHEL y llong-U a gadawsant eu llong ar frys, gan ddianc yn y badau achub. Ni laddwyd yr un aelod o griw’r ETHEL, ond wrth adael ar frys gan ofni am eu bywydau anghofiwyd am gi’r llong a’i adael ar ôl. Mabwysiadwyd y ci gan y criw Almaenig a’i ailenwi’n Lotte.

Hefyd, mae'r ffotograff yn dangos y carcharorion ar U 91, Mr Main, gwner y LANDONIA, a James Goodwin, Ail Swyddog y BARON HERRIES.

Owner:
Freundeskreis Traditionsarchiv Unterseeboote e.V.
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
20/2/2019
Gwelediadau:
1085
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment