Tram nwy o Lansawel, dechrau'r 20fed ganrif
Disgrifiadau
Gwelwyd tramiau am y tro cyntaf yn ardal Castell-nedd ym 1873 pan ffurfiwyd Cwmni Tramffyrdd Castell-nedd a'r Ardal ac adeiladwyd llinell rhwng Stryd Villiers yn Llansawel ar hyd y ffordd fawr drwy ganol Castell-nedd at Westy'r Terminus yn Sgiwen. Dechreuodd y gwasanaeth tramiau ym 1875, a'r pryd hwnnw roedd y tramiau yn cael eu tynnu gan geffylau. Cafodd y Cwmni ei brynu gan Gorfforaeth Castell-nedd ar 7 Awst 1896 am £8,475 a phenderfynwyd newid y gwasanaeth gan gael gwared â'r ceffylau a chyflwyno tramiau nwy. Roedd y tramiau ail-law hyn wedi cael eu defnyddio mewn sawl man arall, gan gynnwys Lytham St. Anne's, Blackpool.
Daeth yn amlwg yn fuan iawn nad oedd y tramiau nwy yn ddigon pwerus ar gyfer y gwaith. Er eu bod yn gallu teithio ar gyflymder o ddeg milltir yr awr, roedd y llethr lleiaf un yn achosi problemau iddynt ac yn eu arafu'n sylweddol. Pan fyddai tram llawn yn cyrraedd y rhiw ger Ysbyty Cyffredinol Castell-nedd, byddai'n rhaid i'r teithwyr gwrywaidd godi i wthio'r tram - does dim syndod felly i'r gwasanaeth tramiau ddod yn destun sbort yn yr ardal.
Fodd bynnag, roedd cael taith ar y tram yn well na cherdded ac roedd y gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi gan y cyhoedd ar y pryd. Cafodd y dramffordd ei gosod ar brydles i'r 'Provincial Gas Traction Company' ym 1905 a bu'r gwasanaeth yn cael ei redeg gan y cwmni hwnnw hyd at 1920 pan gafodd yr hen dramiau eu disodli gan fysiau modur newydd. Ar y pryd, gwasanaeth tramiau Castell-nedd oedd y gwasanaeth tramiau nwy olaf yn y byd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment