Ystrad Einion: Dod â Mwynglawdd Metelau yng Ngogledd Ceredigion yn fyw
£3000 ar brynu’r offer diweddaraf
O’r golwg mewn cilfach dawel yng Nghwm Einon yng ngogledd Ceredigion mae un o emau diwydiannol cudd Cymru, sef mwynglawdd metelau Ystrad Einon. Bu pobl yn cloddio am blwm, arian a metelau eraill yma ar raddfa fach ers y 18fed ganrif, ond degawdau olaf y 19eg ganrif a welodd y gweithgarwch mawr yno. O weld cyfle i wneud arian, aeth y mentrwr o Sir Gaerhirfryn, Adam Mason, ati i gael prydles ar y tir a gwario dros £3000 ar brynu’r offer diweddaraf.
Ond 11 o fwyngloddwyr yn gweithio yno
Mwynglawdd cymharol fach oedd hwn. Yn ôl adroddiad a luniwyd ym 1891, doedd ond 11 o fwyngloddwyr yn gweithio yno: naw dyn yn gweithio dan ddaear a dau lanc 13 ac 18 oed ar yr wyneb. Colledion enbyd a wnaed yn Ystrad Einon ac o edrych yn ôl gallwn weld i Adam Mason a’i offer gyrraedd yno’n rhy hwyr. Roedd y mwynau ar fin dod i ben, costau mwyngloddio’n cynyddu a mewnforion rhad o dramor wrthi’n bygwth ac, yn y pen draw, yn dinistrio mwyngloddio ym Mhrydain. Ym 1903 fe gaewyd y mwynglawdd am y tro olaf a gwerthu neu sgrapio llawer o’r peiriannau.
Gwaith dehongli newydd
Gall y cyhoedd ymweld â mwynglawdd metelau Ystrad Einon, a bydd ffrwyth gwaith dehongli newydd i’w weld ar y safle erbyn haf 2011.
Mae gwaith y Comisiwn Brenhinol yn Ystrad Einon wedi’i gyflawni mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a’u prosiect PLWM, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru.
Cysylltau:
Cofnod Ystrad Einon yn Coflein
Plwm
Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment