Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru
Cyflwyniad
Mae Confensiwn Treftadaeth y Byd 1972 yn cydnabod y gall treftadaeth fod ar ffurf ddiwylliannol a naturiol fel ei gilydd. Mae'r confensiwn nawr wedi cael ei ddilysu gan 187 o wladwriaethau ac ar hyn o bryd mae 938 safle ar Restr Dreftadaeth y Byd sydd wedi'u gwasgaru dros 153 gwladwriaeth.
Mae safleoedd yn cael eu henwebu gan lywodraeth y wlad y maent wedi'u lleoli a rhaid iddynt gytuno ag un neu fwy o ddeg maen prawf sy'n cael eu gosod gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae'r meini prawf yn cael eu defnyddio i asesu Gwerth Pwysigrwydd Byd-eang safle a phwyso a mesur a ellir ystyried ei fod wedi gwneud cyfraniad unigryw at dreftadaeth gyfrannol gyffredinol. Unwaith mae safle ar restr Treftadaeth y Byd, mae'r byd cyfan yna'n rhannu'r cyfrifoldeb am ei gadwraeth barhaus.
Ar draws y byd mae cyfanswm o 725 Safle Treftadaeth y Byd yn cael eu cydnabod am eu gwerth diwylliannol, mae 183 yn ymwneud â safleoedd naturiol ac mae 28 safle yn gymysg. Yn y Deyrnas Unedig mae cyfanswm o 28 safle ac mae tri ohonynt yng Nghymru: Traphont a Chamlas Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll a Muriau Trefi Brenin Edward yng Ngwynedd. Mae cynnig am Safle Treftadaeth y Byd arall yn Chwareli Llechi Gogledd Cymru ar y gweill.
Y diweddaraf o'r Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru i gael ei gydnabod gan UNESCO yw Traphont a Chamlas Pontcysyllte, a ddynodwyd yn 2009.
Fynonellau: www.unesco.org.uk/wales a Chyflwyniad PowerPoint gan Dr Peter Wakelin yn Niwrnod Agored CHBC 23 Gorffennaf 2011.
Traphont a Chamlas Pontcysyllte
Roedd techneg arloesol yn nefnydd haearn bwrw wedi caniatáu ei hadeiladu ac mae'r draphont yn cael ei hystyried yn enghraifft ragorol o'r oes ddiwydiannol newydd. Dyfeisiodd Telford a Jessop ddull newydd o adeiladu â charreg er mwyn caniatáu i'r pierau gyrraedd uchder digonol. Adeiladwyd y pierau gyda rhannau uchaf taprog, gwag, a oedd yn lleihau cyfaint a phwysau'r gwaith carreg.
Gwnaed bwâu a chafn y draphont o haearn bwrw, a'u cynhyrchu mewn gefail a adeiladwyd yn bwrpasol ym Mhlas Kynaston gerllaw. Roedd pob un o'r deunaw lled yn cael ei gynnal gan bedair asen, wedi'u castio mewn tri darn a'u bolltio at ei gilydd gyda phlatiau cysylltu er mwyn cynnal hyblygrwydd. Cynlluniwyd y cafn, sy'n dal y gamlas, i eistedd ar yr asennau, gyda symudiad ochrol yn cael ei rwystro gan fracedi, clustennau a phwysau'r dŵr.
Adeiladwyd y draphont â charreg o chwarel ar ochr ogleddol yr afon. I gychwyn codwyd y pierau mewn camau gan ddechrau gyda darnau isaf pierau'r afon. Yna wrth symud o'r de i'r gogledd ar draws y dyffryn, codwyd y pierau rhwng chwech ac wyth metr ar y tro. Adeiladwyd pum eil bren i gludo deunyddiau a darparu llwyfannau gweithio. O dystiolaeth yng ngwaith carreg y naill bier, roedd pob eil yn eistedd ar ddau drawst pren ac yn cael eu cynnal gan waith carreg y pierau, gyda charntroeon croeslinol wedi'u dal mewn pedolau haearn bwrw a'u diogelu yn y gwaith carreg.
Cynlluniwyd y llwybr tynnu i alluogi i'r dŵr symud oddi tano ac felly'n atal gorlif. Ym 1831 amnewidiwyd y llwybr tynnu pren gwreiddiol am gynllun cantilifer sydd o hyd mewn bodolaeth.
Mae Traphont a Chamlas Pontcysyllte yn ateb sawl maen prawf Confensiwn Treftadaeth y Byd. I gychwyn maent yn cynrychioli 'campwaith o athrylith creadigol ddynol', yn ail maent yn 'arddangos ymgyfnewid pwysig o werthoedd dynol... ar ddatblygiadau mewn pensaernïaeth neu dechnoleg...' ac mae'r safle hefyd yn ateb y maen prawf (rhif iv ar restr UNESCO) i 'fod yn enghraifft amlwg o fath o adeilad neu ensemble pensaernïol neu dechnolegol... sy'n dangos cam arwyddocaol mewn hanes dynol'.
Mae'r Safle Treftadaeth y Byd yn cynrychioli enghraifft bwysig o gludiant yn y Chwyldro Diwydiannol cyntaf a gysylltodd meysydd glo Prydain yn y 1790au a'r 1800au.
Dolen i animeiddiad yn dangos adeiladu Pontcysyllte:
http://www.cbhc.gov.uk/movies/4.wmv
Ffynonellau:
Wakelin,P & Griffiths, R.A (2008)’Hidden Histories, Discovering the Heritage of Wales’ RCAHMW p.192.
www.coflein.gov.uk/en/site/34410Pontcysyllte Aqueduct
Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon
Cafodd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ei ddynodi gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd yn 2000. Canolbwynt Safle Treftadaeth y Byd yw Gweithfeydd Haearn Blaenafon a'r cyffiniau, cyfanswm o 3,290 hectar, bron hanner wedi'u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r ardal hon yn cynnwys: Amgueddfa Lofaol Big Pit, Tref Blaenafon, Canolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon, Y Gamlas, Pwll Penffordd-goch a Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon.
Roedd pwll Big Pit yn cynnwys nifer o byllau cynharach yn ogystal â'r brif siafft a suddwyd ym 1860 ac a ddyfnhawyd ym 1880. Cafodd pyllau'r ardal eu defnyddio'n wreiddiol i gasglu mwyn haearn ar gyfer y gweithfeydd haearn. Drwy'r bedwaredd ganrif ar bymtheg bu galw cynyddol am lo ac yn raddol disodlodd y diwydiant glo haearn a dur. Yn dilyn dirywiad y diwydiant glo tua diwedd yr ugeinfed ganrif, trawsnewidiwyd Big Pit yn amgueddfa, a agorodd ym 1983 ac sydd erbyn hyn yn Amgueddfa Lofaol Cymru.
Dechreuodd Tref Blaenafon ddatblygu ynghyd â'r gweithfeydd haearn yn y 1790au. Ar y dechrau darparwyd cartrefi i'r gweithwyr diwydiannol yn cynnwys Stack Square a ddefnyddiwyd yng nghyfres Coal House y BBC. Adeiladwyd plasty'r meistr haearn, Tŷ Mawr, rhwng 1798 a 1800 ac adeiladwyd Eglwys St Pedr ym 1804. Datblygodd canol y dref yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, diolch yn bennaf i ddylanwad dyn busnes lleol, John Griffith William, a Dosbarth Trefol a Phlwyf Eglwysig Blaenafon. Dynodwyd canol y dref yn Ardal Gadwraeth ym 1984.
Mae mynediad ffisegol a deallusol at Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn cael ei ganolbwyntio yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd a'r Gabnolfan Dwristiaeth sydd wedi'u lleoli yn adeilad Eglwys St Pedr. Adeiladwyd yr ysgol ym 1816 gan Sarah Hopkins, er cof am ei brawd Samuel, a hon oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei hadeiladu'n bwrpasol gan berchennog ar gyfer plant y gweithlu.
Mae olion pellach o'r oes ddiwydiannol yn cael eu defnyddio ar gyfer hamdden. Mae'r rhain yn cynnwys: Y Gamlas, a ddefnyddiwyd i gludo haearn a glo o 1816 i 1860, Pwll Penffordd-goch a grëwyd ym 1817 i gyflenwi dŵr i Efail Garnddyrys, a rhan o Reilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon.
Mae'r Dirwedd Ddiwydiannol yn cael ei hystyried gan UNESCO yn “ddarlun rhagorol ar ffurf faterol o adeiledd cymdeithasol ac economaidd diwydiant y bedwaredd ganrif ar bymtheg” ac “enghraifft bwysig a ryfeddol o gyflawn o dirwedd ddiwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.”
Ffynonellau:
www.visitblaenavon.co.uk/en/WorldHeritageSite
www.coflein.gov.uk/en/site/91590 Ardal Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon (a safleoedd cysylltiedig)
Cestyll a Muriau Tref Brenin Edward yng Ngwynedd
Mae cestyll a threfi amddiffynedig Gwynedd yn cael eu hystyried yr enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol o'r drydedd ganrif ar ddeg a dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg yn Ewrop. Dyma'r cyntaf o Safleoedd treftadaeth y Byd yng Nghymru i gael eu dynodi gan UNESCO ym 1986.
Dechreuwyd eu hadeiladu ym 1283 a pharhaodd tan ddechrau'r 1330au. Maen nhw'n arddangos ffurfiau nodweddiadol pensaernïaeth ganoloesol sy'n cynnwys: rhagdyrau, pontydd codi, clwydi amddiffynedig, rhwystrau gosod, amddiffynfeydd allanol, daeargelloedd, tyrau a llenfuriau.
Adeiladwyd Cestyll Biwmares, Caernarfon a Chonwy a'u muriau tref, a Chastell Harlech, gan brif bensaer y brenin, James de St George, a oedd hefyd yn gwnstabl Harlech o 1290 i 1293. Sefydlwyd y gyfres o gestyll i warchod gogledd Cymru yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282, er y cafodd yr adeiladu ei rwystro ar brydiau gan wrthryfela Madog ap Llywelyn ym 1294.
Mae gan gestyll Biwmares a Harlech gynllun tebyg iawn i'w gilydd sy'n cynnwys wal fewnol wedi'i hamgylchynu gan wal wythonglog gyda thyrau. Mae'r strwythur wal-ddwbl yn nodweddiadol o bensaernïaeth filwrol diwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Ni orffennwyd Castell Biwmares ond roedd Harlech bron iawn yn gyflawn erbyn 1289. Yn ystod y gwrthryfel, meddiannwyd Castell Harlech gan lys a theulu Owain Glyndŵr nes iddo gael ei adennill gan y Saeson ym 1409.
Roedd cestyll Caernarfon a Chonwy a'r trefi amddiffynedig yn arddangos polisi milwrol ac anheddu Brenin Edward I gan mai anheddwyr o Loegr fyddai wedi byw ynddynt. Mae Castell Caernarfon yn cynnwys saith tŵr amlonglog mawr, dau dyred a dau borth mawr gyda dau dŵr yr un, wedi'u cysylltu gan lenfuriau. Cynhaliwyd arwisgiad Tywysog Charles yn y castell ym 1969.
Cwblhawyd adeiladu Castell Conwy ym 1287 ac mae ganddo wyth tŵr. Nid yw ystafelloedd canoloesol y castell wedi'u newid llawer ac yn parhau mewn cyflwr da. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg adeiladodd Thomas Telford Pont Grog Conwy gyda thyrau bylchfur wedi'u cynllunio i adlewyrchu pensaernïaeth y castell.
Buddiannau i'r Gymuned o gael Statws Safle Treftad
Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn tueddu i ddenu ymwelwyr ac fe all hyn ddod â buddiannau cymdeithasol ac economaidd i ardal. Mae'r effeithiau hyn wedi bod yn arbennig o amlwg yn Nhirwedd Ddiwydiannol Blaenafon lle bu tref Blaenafon yn dirywio drwy gydol yr ugeinfed ganrif.
Wedi i lo ddisodli haearn a dur fel y prif ddiwydiant yn ystod yr ugeinfed ganrif, roedd dirywiad yn ystod y Dirwasgiad Mawr yn y 1920au a'r 1930au. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd bu'r dref yn ddibynnol ar y diwydiant glo, a ddirywiodd yn gyflym yn y 1980au. Yn ffodus, cafodd potensial treftadaeth yr ardal ei gydnabod yn y broses adfywio.
Ym 1997 ffurfiwyd Partneriaeth Blaenafon a'r bwriad oedd ennill statws Treftadaeth y Byd UNESCO i'r dref. Wedi i'r dref gael ei dynodi'n Safle Treftadaeth y Byd ym mis Tachwedd 2000, galluogodd i'r gymuned geisio am arian oddi wrth gyrff cyhoeddus eraill.
Buddsoddwyd arian mewn dehongli hanesyddol gwell, agorwyd Amgueddfa Dreftadaeth Cymuned Blaenafon Cordell yn 2001 ac agorwyd Canolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon yn 2008. Hyrwyddwyd gweithgareddau awyr agored yng Nghoedwig Gymunedol Blaenafon, y Llwybr Beicio, Llynnoedd Garn a chyhoeddi nifer o daflenni cerdded. Lansiwyd Llwybr Mynydd Haearn yn 2005.
Mae statws Safle Treftadaeth y Byd wedi ysgogi adfer ac ailddefnyddio adfeilion. Trawsnewidiwyd hen Swyddfeydd Cyngor Blaenafon yn llyfrgell newydd ac mae Ysgol St Pedr yn cael ei ddefnyddio yn Ganolfan Dreftadaeth y Byd. Caniataodd grantiau gwella eiddo i gartrefi preifat gael eu hadfer gyda nodweddion hanesyddol. Yn y stryd fawr, Bow Street, archwiliwyd hen ffotograffau ac adfywiwyd y siopau a oedd wedi cau yn ganolfan siopa gydag wynebau Oes Victoria.
Mae gweithgareddau diwylliannol yn cael eu hannog ac mae digwyddiadau'n cynnwys Gŵyl y Gwanwyn, Diwrnod Treftadaeth y Byd a Ffair Wledig Llynnoedd Garn yn cael eu cynnal yn y dref. Ers derbyn statws Treftadaeth y Byd yn 2000 mae'r dref wedi cael profiad o adfywiad trefol ac amgylcheddol sydd wedi gwella'r ardal yn fawr yn ystod yr unfed ganrif ar hugain.
Ffynhonnell:
www.visitblaenavon.co.uk/en/WorldHeritageSite
STB arall i Gymru
Mae Safle Treftadaeth y Byd arall yng Nghymru yn cael ei gynnig yn y ‘UK Tentative List of Potential Sites for World Heritage Nomination’, sef 'Diwydiant Llechi Gogledd Cymru'.
Mae'r cynnig yn ymwneud â sawl ardal sy'n enghreifftiau dilys o'r diwydiant llechi a'i gludiant, isadeiledd a chymunedau cysylltiedig. Mae'r safleoedd cydrannol yn cynnwys: tirwedd chwarelu llechi Ogwen-Cegin, Castell Penrhyn, Amgueddfa Lechi Cymru, tirwedd chwarelu llechu Nantlle a Moel Tryfan, Chwarel Gorsedda, tirwedd lechi a rheilffordd Ffestiniog, ac adeilad y Brifysgol. Nid yw'r safleoedd hyn wedi newid llawer ers y cyfnod 1856 i 1914.
Roedd y diwydiant llechi'n cynhyrchu llechi toeau ar gyfer y byd cyfan yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae'r diwydiant wedi cael effaith sylweddol ar dirwedd fynyddig yr ardal. Roedd y cymunedau a weithiau yn y chwareli'n siarad Cymraeg ac mae'r safle sy'n cael ei gynnig yn cael ei ystyried yn enghraifft eithriadol o sut ymaddasodd traddodiad diwylliannol ac ieithyddol lleiafrifol â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae'r safle hefyd yn gysylltiedig â llwyddiannau mewn cyfiawnder cymdeithasol drwy gapeli'r gweithwyr a'u cefnogaeth i Brifysgol Bangor. Byddai dynodiad yn Safle Treftadaeth y Byd yn “cefnogi cadwraeth asedau diwylliannol, hanesyddol a diwydiannol unigryw'r ardal”, ac yn “cynorthwyo adfywio yn y trefi a phentrefi cysylltiedig a chynorthwyo cadwraeth a diogelwch nodweddion y diwydiant drwy godi ymwybyddiaeth a balchder cymunedol.”
Ffynhonnell: UK Tentative List of Potential Sites for World Heritage Nomination: Application for SLATE INDUSTRY OF NORTH WALES: http://www.culture.gov.uk/images/publications/WHAF_Slate_Industry_of_No…
Claire Parry, CHBC, 29 Medi 2011.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment