Skip to main content

William Williams, Pantycelyn (1717-1791)

Tröedigaeth

William Williams oedd prif lenor Cymru yn y ddeunawfed ganrif. Roedd yn un o arweinwyr allweddol y Diwygiad Methodistaidd cynnar yng Nghymru ac yn fardd ac awdur o fri.

Ganed ef ym 1717 yng Nghefn-coed, ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin, yn fab i John a Dorothy Williams. Bu'n byw yno tan farwolaeth ei dad, pan symudodd ei fam y teulu i'w hen gartref, Pantycelyn, fferm gyfagos, a dyma le treuliodd gweddill ei oes.

Aeth i'r ysgol yn lleol, ac yna aeth ymlaen i Athrofa Llwynllwyd ger Talgarth, Sir Frycheiniog. Y bwriad oedd iddo fod yn feddyg, ond newidiodd hyn pan gafodd dröedigaeth ym mynwent Talgarth wrth wrando ar y diwygiwr efengylaidd Howel Harris (1714-1773) yn pregethu ym 1737. Cafodd ei ordeinio'n ddiacon ym 1740, a bu'n gurad i Theophilus Evans (1693-1767) yn Llanwrtyd, Llanfihangel a Llanddewi Abergwesyn tan 1743. Gwrthododd esgob Tyddewi ei urddo'n offeiriad ym 1743 oherwydd ei weithgareddau Methodist, felly aeth yn bregethwr teithiol.

Emynau

Priododd Mary Francis tua 1748, a hi fu'n gofalu am fferm Pantycelyn a'r wyth o blant tra oedd ei gŵr yn teithio o gwmpas Cymru yn pregethu. Williams, Daniel Rowlands a Howell Harris oedd yn gyfrifol am y diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, ac roedd emynau William Williams yn rhan bwysig ohono. Mae Williams yn cael ei weld fel un o ddylanwadau pwysicaf ar iaith a diwylliant Cymru yn yr 19eg a'r 20fed ganrif.

Ym 1744 cyhoeddodd William Williams ei gyfrol gyntaf o emynau, 'Aleluia I', gyda phum cyfrol arall yn dilyn yn y tair blynedd ganlynol. Ysgrifennodd 'Hosanha i fab Dafydd' (yn ddwy ran, ym 1751 a 1754), 'Rhai Hymnau a Chaniadau Duwiol' (1759), 'Caniadau y rhai sydd ar y Môr o Wydr' (1762), 'Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig Bethau' (1763) 'Gloria in Excelsis' (1771), 'Ychydig Hymnau' (1774) a 'Rhai Hymnau Newyddion' (1781).

Ysgrifennodd dau gasgliad o emynau yn Saesneg hefyd: 'Hosannah to the Son of David' (1759), a 'Gloria in Excelsis' (1772). Ond ei emyn enwocaf ydy “Arglwydd, arwain trwy'r anialwch”, sy'n fwy adnabyddus fel “Guide me, O thou great Jehovah”, cyfieithiad Peter Williams o 1771, a gafodd ei ganu i alaw Cwm Rhondda ym mhriodas Tywysog William a Catherine yn 2011. Cafodd yr emyn hefyd ei ganu yn seremoni agoriadol Stadiwm y Mileniwm ym 1999, y ffilm 'How Green was my Valley' ym 1941, ac yn angladd y Dywysoges Diana ym 1997.

Cyhoeddodd William Williams, Pantycelyn dros 800 o emynau yn gyfan gwbl, ac mae 88 ohonynt wedi'u cynnwys yn y llyfr emynau cydenwadol, 'Caneuon Ffydd' (2001). 

Cerddi a rhyddiaith

Ysgrifennodd dwy gerdd hir: 'Golwg ar Deyrnas Crist' ym 1756 a 'Bywyd a Marwolaeth Theomemphus' ym 1764. Roedd y gyntaf yn ymgais i werthuso pwrpas dwyfol yn y greadigaeth, a'r ail yn astudiaeth o daith yr enaid yn y byd trwy brofiadau. Ysgrifennodd tua 28 o farwnadau. Roedd rhai'n gyffredin iawn, ac eraill, fel y rhai i Lewis Lewis, Grace Price, Howel Harris a Daniel Rowlands, o safon uchel iawn.

Cyhoeddodd nifer o lyfrau rhyddiaith hefyd, gan gynnwys 'Llythyr Martha Philopur' (1762), 'Atteb Philo-Evangelius' (1763), 'Crocodil Afon yr Aipht' (1767), 'Tri Wyr o Sodom' (1768), 'Liber Miscellaneorum' (1773), 'Ductor Nuptiarum', neu 'Gyfarwyddwr Priodas' (1777), 'Templum Experientiae Apertum' (1777), a 'Pantheologia', neu 'Hanes Holl Grefyddau'r Byd' — gwaith a gyhoeddwyd mewn cyfrolau rhwng 1762 a 1779.

Yn ôl rhai, William Williams Pantycelyn yw bardd pwysicaf yr iaith Gymraeg. Bu farw ar 11 Ionawr 1791, a cafodd ei gladdu yn Llanfair-ar-y-bryn. Mae Capel Coffa William Williams ar y Stryd Fawr yn Llanymddyfri, ac mae ysgol gyfun y dref wedi'i henwi ar ei ôl. 

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment