Skip to main content

Tafodiaith Glynogwr, Canol Morgannwg

Ffynhonnell allanol:

Nodweddion cyffredinol

Enghraifft arall o'r Wenhwyseg, iaith Dwyrain Morgannwg yw tafodiaith Mrs Williams: fel Richard Griffith Thomas yn Llangynwyd, mae'r æ  fain ganddi, mae'n caledu cytseiniaid, ac mae'n swnio'r a yn sillaf olaf ddiacen geiriau.

Fodd bynnag, yr hyn sydd yn hynod am iaith Mrs Williams yw bod yr u 'ogleddol' yn rhan amlwg o'i hacen. Ceir y sain mewn nifer fawr o eiriau, e.e. ry dwym, cymysgu, dwy, llwy, twym.

Mae u i'w chlywed mewn ardal yn y De sydd yn cynnwys pentrefi Glynogwr, Y Coety, Pen-coed, a Llanharan yng nghyffiniau Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghanol Morgannwg. Er bod nifer fawr o siaradwyr yr iaith yn yr ardal hon heddiw, mewnddyfodiaid neu (gyn-)ddisgyblion ysgolion Cymraeg yw'r rhan fwyaf ohonynt; prin iawn yw siaradwyr y dafodiaith wreiddiol. Pan oedd yr iaith yn ei bri yn y cy!ch un o'r nodweddion amlwg arni a'i gwnâi yn wahanol iawn i eiddo'r gweddill o'r De oedd bod llawer o bobl yn defnyddio u debyg iawn i sain y Gogledd. Yr oedd yr ardal hon, felly, yn greirfan seinegol.

Y recordiad

Ond y... down i ddim gallu nuthur menyn, odd yn nilo i ry dwym. Man nw nawr. Wi'n goffod, dwi'n ffaelu'n glir a myn' mlân â'r y... /gweu/ gwau achos man nilo i mor dwym. Ond own i'n lîco nuthur ciaws yn 'y ngalon. O...

Wel nawrte, ffor' och chi'n neud caws, gwedwch wrtho i nawrte.  Godro'r daelig; yn gynta a allws y... mynd â'r llâth i miwn i'r y... fel cecin fawr odd 'no. A gwoshban faw[r]... o, 'na beth oen ni'n 'i gialw 'i - woshban fawr o zinc 'no.  Allws llâth i miwn 'no, a wetiny doti cwrd... cwrdab yndo fa. A wetiny oen ni'n giwro fo.

Ffor' och chi'n giwro fe?

Llian. Llian drosto fo. A dwy ffon. Nâg;, odd rwpath wedi neud gintyn nw at y pwrpos, dros y woshban a doti llian drosto. Wetiny aros. Wi ddim cofio am bw faint nor. Duws, duws, ma blynydda 'ddar 'ny. Ag, wetiny oen ni'n 'i... odd peth gintyn nw at 'i gymysgu fo. Wetiny oen ni'n... atal a sefyll.

Beth, beth odd y peth 'ma at i gymysgu fe?

Wel, fel mâth o lwy fawr bren. Rownd. A wetiny oen ni'n dyfiddo'r... Wi'n cofio'n Granny yn ishta lor acha ciatar a doti... ag odd hi'n gallu dyfiddo. Odd 'i'n lico nuthur 'ny. Allws y maidd i woshban arall.

Ffor' odd 'i'n gneud 'ny 'te? Odd 'na dwli yn y badell 'ma?  Nâgodd. Gwnnu fa o... y... Beth odd ginti nor? Sgiæl wi'n cretu odd 'i'n 'i gialw 'i. Ma gin i ryw gof. Odych chi w' clŵad y gair 'na? 'Der â'r sgiâl 'na i fi,' wetsa 'i. Ag y...

Dyfiddo'r... y...  Y... y ciaws. Wetiny atal a sefyll, y... Cwnnu'r woshban lan dipyn bach, a [do]ti a yn rochor lle bo'r y... y sudd yn dod mâs ry rwydd. On nw'n barticular iawn. O, odd shŵr bo' ciaws gora'n y byd 'no.

Odd raid bod y sudd yno, odd e?  Wel, chi'n gwpod, pido wasgu fa ry gynnar. Pido roi...

Odd 'ny'n bwysig?  Odd. O, odd.

Os gwasgech chi fe'n ry ginnar beth odd yn...  Wel odd y dioni'n dod mæs og e. Ormodd og e. O, oen nw'n barticular iawn. Dyr, diar, diar!

Wel nawr, bob pryd och chi'n neud y caws 'te wedyn?  O, ar ôl iddo fa... 'swch nawr... sefyll am getyn, odd isha wetiny 'i frwo fa i'r cowstall. Chi'n gwel'. Wi'm c[r]etu bo' cowstall iddi giâl nor! [Chwerthin.] Fe fu un gin i, a fu... gorffod i fi frwo fa lan. Odd y clawr a chwbwl yn llawn o... chi'n gwpod, wedi darfod, wedi myn'. Ag.. .y... llian gwyn nor ar y cowstall, a wetiny brwo'r ciaws miwn iddo. A [do]ti halan fel oeddach chi'n 'i... moyn. Llanw'r cawstall. A giatal 'wnnw sefyll wetiny am... am noswith wi'n cretu. Odd ddim ryw... o... deg... deg o warthag odd 'no wi'n cretu. Ddim lle mawr chi'n gwel'. Nâgodd. Ond odd a'n le cyffwrdus iawn. Dim un fuss. Dim drifo dim 'no. Nâgodd. /'Na fe./ Cyffwrdus iawn.

Wel nawr, bob pryd och chi'n neud caws? Bob nos, ne pob bore, ne pryd? Ne bob douddydd?  0... bob bora. /Bob bora./ Ia, llâth y nos a'r llâth y bora gyda'i gilydd.

Wel odd raid 'chi dwymo llâth y nos wedyn, odd e? Odd, odd. Witha. Witha fysin ni'n nuthur 'ny a witha ciaws llefrith oen ni'n 'i alw fa.

Wel nawrte, beth yw caws llefrith?  Wel, all fresh milk, chi'n gwpod.

Nodiadau

lîco
Sylwer ar yr î yn y ffurf hon; amrywiadau eraill yw lico (gydag i fer), lwco, lyco, a leicio. Anaml y clywir hoffi yn y tafodieithoedd.

nuthur
Ymddengys fod y ffurf wedi ei chadw mewn pocedi bychain yn y De gan rai siaradwyr yn unig.

(g) woshban 'padell fawr'
Y ffurf luosog yw woshbenni.

cwrdab 'cyweirdeb'
Rhan o stumog y llo a gedwid ar gyfer troi llefrith yn gaws. Pan ddechreuwyd marchnata cyweirdeb mewn ffurf hwylusach disodlwyd y gair Cymraeg gan y Saesneg rennet.

ciwro 'to cover'
Y mae ffurf y gair yn awgrymu nad benthyciad diweddar mohono. Geiriau mewn ardaloedd eraill sydd yn arddangos y cyfnewid f/w yw cawod a cafod, tywod a tyfod, a falle a walle 'efallai'. Gweler hefyd brwo.

fo 'ef'
Ffurf arferol dwyrain Morgannwg ar y rhagenw hwn yw  (f)a, ffurf ddiacen ar  (f)e, y ffurf acennog. Cymharer y parau canlynol:

'i daro fa 'ei daro' ond

'i daro fe 'ei daro ef.

'i ben a 'ei ben'

'i ben e 'ei ben ef

Er bod fo yn iaith Mrs Williams yn swnio'n debyg i fo y Gogledd, nid yr un yw eu tarddiad. O efô y cafwyd fo y Gogledd; o efe y daeth fe y De. Amrywiad ar y ffurf olaf sydd gennym yng Nglynogwr.

Troes  (f)e yn  (f)a yn nwyrain Morgannwg o dan yr un amodau yn union ag yr aeth e yn a yn y sillaf olaf.

lle 'lIe' ond unlla 'unlle'
tre 'tref' ond cartra 'cartref'

Fel y gwelir, mewn sillafau diacen y ceir a yn hytrach nag e yn yr enghreifftiau hyn, a ffurf ddiacen yw  (f)a hithau. O dan ddylanwad yr f y datblygodd fo yng Nglynogwr yn yr un modd ag yr aeth afal yn afol mewn rhannau o'r Gogledd a Dyfed.

dyfiddo 'difeiddio'
Term technegol wrth wneud caws, yn cyfeirio at wasgu'r maidd o'r colfran. Yr elfennau yw'r di- negyddol (a welir mewn geiriau fel di-fai, di-flas, a disynnwyr) + maidd + terfyniad berfenwol.

Granny
Sylwer ar y gair benthyg yma. Erbyn heddiw clywir gu a gua  (ffurfiau anwes ar 'mam-gu') yn gyffredin yn y de-ddwyrain gan y di-Gymraeg!

sgiæl
Math o soser denau, o bren masarn, a thyllau yn y gwaelod ar gyfer codi'r hufen oddi ar wyneb y Ilefrith. Byddid yn arllwys y llefrith i bedyll a'i adael am o Ieiaf ddeuddeng awr i hufennu. Termau eraill am yr un gwrthrych yw hiddyl  (Morgannwg), llior (Brycheiniog), sleten  (y De-orllewin), a sgimar (y Gogledd).

rhwydd 'cyflym'

am getyn 'am ychydig'
Yr un gair yw hwn â'r un a ddefnyddir am bib ysmygu. Sylwer ar ddatblygiad yr ystyr:

'darn, rhan'

'darn o amser, rhywbeth byr' (sef yr ystyr yma)

'pib glai a chanddi goes fer' (a geir yng nghanol Morgannwg)

'pib' (yn gyffredinol) (yn y Gogledd)

Yr oedd mynd mæs am getyn yn ddywediad ffodus o amwys i wŷr Llangynwyd nad oedd eu gwragedd yn cymeradwyo ysmygu!

brwo
'Torri'n fân' yw ystyr y berfenw hwn; 'clwyfo' yw ystyr ffurf gyfatebol y Gogledd, sef brifo. Diau mai yn sgîl y torri croen sydd yn aml yn rhan o glwyfo y datblygodd brifo ei ystyr bresennol. Am y cyfnewid w/f gweler ciwro uchod.

cawstall 'cawsellt, cawslestr'
Llestr crwn o bren masarn, rhwng chwech a deunaw modfedd ar draws; yr oedd tyllau yn y gwaelod a chlawr pren arno. Fe'i llenwid â chaws mân a'i roi o dan bwysau; byddai'r maidd yn cael ei wasgu o'r caws a'r cosyn yn caledu.

iddi 'i'w'
Sain a dyfodd er mwyn cadw'r ddwy i ar wahân yw'r dd 'lusg' yn y ffurf hon; mae defnyddio dd yn y modd hwn yn debyg iawn, felly, i ddull rhai mathau o Saesneg o roi r rhwng Ilafariaid mewn ITurfiau fel law-r-and order. Ceir yr dd lusg mewn rhannau helaeth o'r De, nid yn unig yn y cyfumad hwn, ond hefyd rhwng llafariad neu ddeusain ac i 'hi', e.e

Gwedwch wthtiddi 'Dywedwch wrthi hi'
Le maeddi?  'Ymhle mae hi?'
Fwrestiddi?  'A fwriaist ti hi?'

darfod 'gorffen'
'Dod i derfyn ei oes' yw'r ystyr sydd i darfod yma; cwplo a ddefnyddir am orffen gweithred.

noswith 'noswaith'
Erill 'eraill' a hunin hunain yw'r unig eiriau sydd yn cynnwys i yn y sillaf olaf drwy'r rhan fwyaf o'r wlad yn hytrach na'r ai saionol. Yn nwyrain Morgannwg gall i yn y sillaf olaf gyfateb hefyd i e yr iaith safonol mewn nifer fawr o eiriau, e.e.

darllin 'darllen'

dishglid 'dysglaid'

merchid 'merched'

dwywith 'dwywaith'

ychin 'ychen'

unwith 'unwaith'

Ceir enghraifft o noswith hefyd yn y darn o'r Rhos.

gwarthag 'da godro'
Mae da yn yr ardal hon yn cyfeirio at yr anifeiliaid hyn yn ogystal ag at y rhai na ellir eu godro fel y lloi, a'r creaduriaid sydd heb ddechrau magu.

drifo 'rhuthro'
Y duedd i blant heddiw yw cysylltu gyrru â cheir, ond ystyr gyffredin i gyrru yn y De yw 'rhuthro'; ceir yr un ystyron i'r Saesneg drive.

llefrith 'yr hylif yn gyfan, heb ei drin'

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment