Skip to main content

Trychinebau Glofa Wattstown

O ardal wledig i ardal ddiwydiannol

Ardal gymharol wledig oedd Wattstown cyn dechrau'r oes ddiwydiannol. Ei henw ar y pryd oedd Pont Rhyd y Cwch neu Bont-y-cwtch. Mae hi wedi'i lleoli yng nghymoedd y Rhondda ac fe'i gelwid yn Cwtch yn lleol. Pan wnaed y cyfrifiad cyntaf ym 1841, dim ond tair fferm oedd yno: Aberllechau, Tŷ Gwaudd a Cefn Llechau Isha.

Pan agorodd y lofa, cynyddodd poblogaeth yr ardal yn fawr, a gelwid y pentref yn Wattstown ar ôl Edmund Hannay Watts a oedd o Northumberland. Ef oedd uwchbartner y cwmni Watts, Watts & Co., National Steam Coal Company yn ddiweddarach, ac fe brynwyd y lofa, The National Colliery, ym 1884, dair blynedd wedi i'r pwll gael ei gloddio.

Rhwng 1884 a 1885, adeiladodd y National Colliery Company 60 cartref yn Hillside Terrace a 29 ychwanegol yn Stryd Bailey ar gyfer y mewnlifiad o bobl o rannau eraill o Gymru ac o Loegr yn chwilio am waith.

Trychineb 1887

Ar ddydd Mercher, 18 Chwefror 1887, bu ffrwydrad yn y pwll glo, a lladdwyd 39 o weithwyr ac anafwyd 6. Digwyddodd hyn rhwng y sifft dydd a'r sifft nos tua 6.40yh, a dyma'r rheswm, mae'n debyg, mai cymharol isel oedd y nifer a fu farw. Roedd y ffrwydrad mor gryf nes iddo ddifrodi'r offer weindio, ac achosi i'r tîm achub oedi sawl awr. Unwaith y cyrhaeddodd y tîm y pwll, llwyddodd i ddod â 38 o ddynion i'r wyneb, 29 ohonynt yn ddianaf!

Mae'r ymchwiliad swyddogol yn nodi - “the operation of the colliery was conducted in a loose manner, that is, not as carefully as the case required. The Cause of the explosion was the result of firing a shot without proper precautions...”

Roedd y National yn cael ei weld yn bwll glo modern, ac wedi'r ddamwain gyntaf, gosodwyd goleuadau trydan ynddo. Hwn oedd y pwll cyntaf yn Ne Cymru i gael ei oleuo'n gyfan gwbl gan drydan. 

Trychineb 1905

Bu ffrwydrad arall ym mhwll glo'r National ar ddydd Mawrth 11 Gorffennaf 1905 am 11.45yb. Lladdwyd 119 o ddynion a bechgyn y tro hwn, 56 ohonynt o dan 20 oed, a 33 o'r rhain o dan 15 oed.

Achoswyd y ffrwydrad hwn gan gelignit a oedd yn cael ei ddefnyddio i glirio rhan o'r pwll lle'r oedd nwy wedi cronni. Roedd yn erbyn y gyfraith i ddefnyddio gelignit y tu mewn i lofa, ar wahân i gloddio pwll newydd, gan fod nwyon yn aml yn cronni. Roedd rheolwr y pwll, Mr William Meredith, newydd gyrraedd y wyneb ar ôl iddo fod i fwrw golwg dros y pwll. Wedi'r ffrwydrad, aeth yn ôl i'r pwll ar unwaith, ond yn anffodus bu farw ar ôl iddo dagu ar y danchwa. Dim ond tri o ddynion a achubwyd y tro hwn, a bu farw dau ohonynt o'u hanafiadau'n ddiweddarach. Dim ond Mathew Davies a oroesodd.

Yn yr adroddiad swyddogol, nodwyd fod y ddamwain wedi gadael 44 o weddwon a 110 o blant heb dadau. Cynhaliwyd y mwyafrif o'r angladdau dros dridiau, o ddydd Gwener 14 tan ddydd Sul 16 Gorffennaf. Safodd cannoedd o filoedd o bobl ar y ffordd i'r fynwent i dalu teyrnged i'r glowyr a fu farw. Roedd yr orymdaith dros bedair milltir o hyd.

Caewyd y pwll glo ym 1968.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment