Arwr Olympaidd Anhysbys Cymru
Y bachgen drws nesa'
Paulo Radmilovic yw un o Olympiaid mwyaf llwyddiannus, ac o bosibl lleiaf enwog, Cymru. Roedd yn chwarae polo dŵr ac yn nofiwr a enillodd bedwar teitl Olympaidd mewn tair Gêm yn olynol, record Brydeinig a barhaodd nes i Syr Steven Redgrave ennill ei bumed fedal aur yn Sydney yn 2000.
Cafodd Radmilovic ei eni yn Tiger Bay yn y dociau yng Nghaerdydd, yn fab i dad o Serbia a mam o Iwerddon. Roedd ei dad yn rhedeg tafarn y Glastonbury Arms ar ben gogleddol Bute Street, drws nesaf i dafarn y Cape Horn Inn a oedd yn cael ei rheoli gan lys-dad y paffiwr pwysau plu Jim Driscoll. Er i Driscoll ddod yn fyd-enwog ac mae'n cael ei gofio hyd heddiw am ei baffio medrus, ni lwyddodd Radmilovic i ennill yr un statws, er ei fod yn Olympiad.
Darganfod y dŵr
Darganfyddodd ei ddawn yn y dŵr am y tro cyntaf wrth iddo nofio gyda'i gyfeillion yng Nghamlas Morgannwg a redai wrth ymyl ei gartref yn Bute Street. Roedd yn gyffredin i blant Trebiwt nofio yn y Gamlas, yn arbennig yn ystod yr haf pan oedd mwg a llwch diwydiannau'r ddinas ar eu gwaethaf. Bu Radmilovic yn hyfforddi yn y Gamlas ac Afon Taf, gan gerdded allan i Blackweir i gryfhau ei ysgwyddau yn erbyn y cerhyntau cryfach yn yr afon.
Llwyddiant Olympaidd
Chwaraeodd Cymru ei gêm ryngwladol polo dŵr gyntaf ym 1897 a chwaraeodd Radmilovic ei gêm gyntaf gyda'r tîm ym 1901 yn 15 oed. Aeth yn ei flaen i ennill ei fedal aur gyntaf yn gapten Prydain Fawr pan enillodd y tîm yn erbyn Gwlad Belg yng Ngemau Olympaidd Llundain ym 1908. Roedd Radmilovic yn llwyddiannus yng Ngemau Olympaidd Llundain gan iddo hefyd ennill medal aur arall yn y ras gyfnewid 4x200m. Cafodd leoedd hefyd yn rasys cynderfynol nofio dull rhydd dros 100 metr, 400 metr a 1500 metr.
Parhaodd Radmilovic i nofio'n llwyddiannus fel unigolyn am weddill ei yrfa ond roedd yn canolbwyntio ar bolo dŵr. Ef oedd capten tîm Prydain eto pan wnaethant ennill aur eto yng Ngemau Olympaidd Stockholm ym 1912 ac yn Antwerp ym 1920. Roedd y fuddugoliaeth yn Antwerp yn arbennig o anodd gan eu bod yn chwarae yn erbyn y tîm cartref yn y rownd derfynol gyda Radmiloovic yn sgorio'r gôl fuddugol, er mawr siom y dyrfa. Roedd y gêm mor ffiaidd, cafodd y chwaraewyr eu cleisio a'u crafu a bu angen gosgordd arfog i'w tywys o'r pwll. Ymddiheurodd Ysgrifennydd Gwladol Gwlad Belg y diwrnod nesaf.
Medal Olympaidd aur Antwerp oedd ei olaf, ond parhaodd Radmilovic i gystadlu ac enillodd tlysau ym Mhencampwriaethau Prydain ac fe gafodd ei ddewis i gystadlu yn nhîm Prydain yng Ngemau Olympaidd Paris ym 1924 ac yn Amsterdam ym 1928.
Cynrychioli Cymru
Ym 1930, cynrychiolodd Radmilovic Gymru yn y Gemau Ymerodraeth cyntaf yng Nghanada pan oedd yn 44 oed. Ond dychwelodd yn waglaw ac fe wnaeth ymddeol o gystadlu yn fuan wedyn er iddo barhau i nofio yn ei gartref newydd yn Weston-super-Mare.
Cafodd Paulo Radmilovic le yn Neuadd Enwogion Nofio Ryngwladol ym 1967, yr ail nofiwr o Brydain i gael ei anrhydeddu ar ôl Capten Webb, y dyn cyntaf i nofio'r Sianel. Bu farw flwyddyn yn ddiweddarach ym 1968, a hyd yn oed yn ei flynyddoedd olaf roedd yn medru nofio chwarter milltir mewn amser gweddus.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment