Cymru a Chwpan y Byd
Cyrraedd yn annisgwyl
Ni fu buddugoliaethau dros Tsecoslofacia a Dwyrain yr Almaen yn y rowndiau rhagbrofol yn ddigon i sicrhau lle i Gymru yn ngornest derfynol Cwpan y Byd 1958.
Bu Cymru yn ffodus i gael cyfle arall i fynd drwodd wedi i nifer o dimau dynnu allan o'r gystadleuaeth gan adael Israel heb wrthwynebwyr yn y grŵp Affrig-Asia. Dewiswyd y tîm cenedlaethol allan o'r timau a oedd wedi dod yn ail yn eu grwpiau i chwarae rownd dau gymal yn erbyn Israel am le yn yr ornest derfynol. Manteisiwyd ar y cyfle euraidd gyda dwy fuddugoliaeth o 2-0, y naill yn Tel Aviv a'r llall ym Mharc Ninian yng Nghaerdydd.
Y Gystadleuaeth
Agorwyd y Gornestau'n swyddogol ar 8 Mehefin 1958, yn Sweden. Roedd Cymru yng Ngrŵp 3 gyda Sweden, Hwngari a Mecsico ac roedd yr ymgyrch wedi dechrau gyda sgorio 1-1 yn erbyn Hwngari a Mecsico. Roedd canlyniad 0-0 yn erbyn Sweden yn ddigon i sicrhau gêm dros ben yn erbyn Hwngari am le yn yr un-ar-bymtheg olaf.
Bu'n rhaid brwydro'n galed yn y gêm dros ben. Aeth yr Hwngariaid corfforol i mewn i'r toriad hanner amser ar y blaen o 1-0. Serch hynny, sicrhaoedd goliau yn yr ail hanner gan Ivor Allchurch a Terry Medwin fuddugoliaeth i Gymru.
Tor-calon
Trechwyd Cymru gan Brasil yn y rowndiau gogynderfynol - cafodd yr unig gôl ei sgorio gan y bachgen 17 oed Pelé. Ar y pryd, Pelé oedd y chwaraewr ifancaf erioed i chwarae yng ngornestau terfynol Cwpan y Byd a sgoriodd ei gôl gyntaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Cymru. Aeth Brasil ymlaen i ennill y Cwpan, gan guro Sweden o 5 gôl i 2 yn y gêm derfynol.
Chwaraeodd rhai chwaraewyr rhagorol i dîm cenedlaethol Cymru ar y pryd, yn eu mysg John Charles ac Ivor Allchurch, ac mae'r 1950au yn cael eu cofio fel oes aur pêl-droed yng Nghymru.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment