Y Trip Ysgol Sul
Traddodiad Cymreig
Daeth Ysgolion Sul yn rhan annatod o'r mudiad Anghydffurfiol yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cynhaliwyd dosbarthiadau i bobl o bob oed i ddechrau ond erbyn heddiw mae'r Ysgol Sul yn cael ei gweld yn bennaf ar gyfer plant a phobl ifanc. Cynhaliwyd dosbarthiadau wythnosol i ddysgu moeswersi o'r Ysgrythur i bobl ifanc, ac roedd y dosbarthiadau'n chwarae rhan bwysig mewn dysgu disgyblion am y ffydd Gristnogol.
Er iddynt ymddangos yn gyfystyr â Chymru a'r enwadau Anghydffurfiol, nid oedd Ysgolion Sul yn dod o Gymru yn wreiddiol. Credir i'r syniad darddu yn yr Eidal lle cynhaliwyd dosbarthiadau tebyg yn ystod y 16eg ganrif. Yn ystod y 18fed ganrif, hyrwyddodd Robert Raikes, lleygwr Anglicanaidd, y syniad yn Lloegr.
Trip yr Ysgol Sul
I'r miloedd o blant oedd yn mynychu'r Ysgol Sul bob wythnos ar draws Cymru, mae'n rhaid fod y wibdaith flynyddol yn cael ei hystyried yn wobr deilwng am fisoedd o gofio ac adrodd darnau o'r Beibl, eistedd yn unionsyth yn y dosbarth a gwrando'n ufudd ar yr athro. Glan y môr oedd yr hoff gyrchfan a byddai'r capel cyfan yn teithio i leoedd fel Aberystwyth, Y Rhyl, Llandudno, Abermo a Dinbych-y-pysgod i fwynhau'r môr a'r tywod, a'r haul gobeithio ...
Dechreuad ansicr
Sefydlodd Griffith Jones o Landdowror yn Sir Gaerfyrddin y mudiad yng Nghymru, gyda'i ysgolion cylchol a deithiodd y wlad yn addysgu pobl a gwella graddfeydd llythrennedd. Yn dilyn ei farwolaeth, daeth gweinidog Methodist Calfinaidd o'r Bala, Thomas Charles, i'r amlwg fel arweinydd y mudiad. Yn wir, caiff Thomas Charles ei ystyried yn 'dad' y mudiad Ysgol Sul yng Nghymru.
Er gwaethaf gwrthwynebiad oddi wrth rhai a gredai fod yr ysgolion yn 'torri'r Sabath', lledodd yr ysgolion yn gyflym a chyn hir roedd yr holl enwadau Anghydffurfiol yn cynnig dosbarthiadau i'w haelodau. Nid yn unig oedd yr addysg a gynigiwyd yn dysgu am y Beibl ond roedd hefyd yn gwella graddfeydd llythrennedd, y gallu i ddadlau a thrafod, ac yn fwy arwyddocaol, caniatáu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment