Skip to main content

Carchar Rhuthun

Yr Hen Lys

Credir bod carchar cyntaf Rhuthun wedi'i leoli yn yr hen lys, lle mae Banc Natwest erbyn hyn. Fe'i hadeiladwyd tua 1404, wedi i Owain Glyndŵr ymosod ar y dref gan ddinistrio bron bob dim.

Bu Richard Gwyn, un o Ferthyron Catholig Cymreig yno am bedair blynedd olaf ei fywyd cyn iddo gael ei drosglwyddo i Wrecsam i'w ddienyddio ym 1584. Roedd y mwyafrif o ddienyddiadau yn Rhuthun yn digwydd ar Sgwâr Sant Pedr, a gellir gweld rhan o'r grocbren o hyd ar ochr ogledd-orllewin yr Hen Lys.

Adeiladwyd 'Cyweirdy' cyntaf Rhuthun ym 1654, wedi i Ynadon Sir Ddinbych cael gorchymyn. Fe'i lleolwyd ar waelod Stryd Clwyd, lle mae'r hen adeiladau heddiw, a'r meistr cyntaf oedd Harry Davies. Ehangwyd yr adeilad ym 1699.

Newidiadau ar ôl Mesurau 1774

Pasiwyd dau fesur seneddol ym 1774 wedi ymchwil John Howard i amodau carcharau; y cyntaf i wella glanweithdra a phenodi meddyg ym mhob carchar. Yr ail fesur oedd dileu'r arfer fod rhaid i bob carcharor dalu'r Ceidwad pan fyddai'n cael ei ryddhau. Penderfynodd Ynadon Sir Ddinbych adeiladu carchar newydd ar ôl hyn. Erbyn mis Ebrill 1774 roedd cynlluniau'r carchar newydd wedi'u llunio gan Joseph Turner, pensaer o Gaer. Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Ionawr 1775. Roedd yr arysgrif uwchlaw'r drws yn nodi “The magistrates, sensible of the miserable state of the ancient prison, in compassion to the unfortunate, caused this building to be erected in the year MDCCLXXV”

Roedd bywyd mewn carchar yn anodd a llym. Mewn adroddiad ar amodau'r carchar ar 3 Mawrth 1788 yn nodi - “Carchar y Sir yn Rhuthun – Nid oes gwahaniad rhwng y rhywiau. Nid yw'r dyledwyr yn talu rhent am eu hystafelloedd, ac yn cael lwfans y sir o ddau swllt yr wythnos, ond nid ydynt yn cadw eu hystafelloedd yn lân. Un o'r eitemau yn rheolau 1785, yw, y bydd pob carcharor sydd wedi'i garcharu am ffeloniaeth yn cael gefynnau ar eu coesau yn noethineb y Ceidwad, ac ni cheir eu tynnu heb orchymyn ynad heddwch; nid oes hyd yn oed eithriad i ferched.”Ar y pryd roedd y carchar yn gartref i ddeuddeg o ddyledwyr, dau ffelon a saith carcharor arall. Cyflog y meistr oedd £70.

Ehangu

Ym 1802, roedd gan y carchar bedair cell ar gyfer ffeloniaid a naw ar gyfer dyledwyr. Gofynnwyd i'r pensaer gwreiddiol, Joseph Turner o Gaer, i ehangu'r adeilad, ond gan ei fod wedi heneiddio ac yn anhwylus, ni allai arolygu'r gwaith, ac oherwydd hyn bu problemau gyda'r adeilad.

Cafodd yr adeilad ei ehangu unwaith eto ym 1812 er mwyn ychwanegu celloedd unigol, ystafelloedd dydd, celloedd i ferched a man ymarfer corff. Ychwanegwyd chwe chell unigol ar gyfer merched rhwng 1824 a 1825, a mwy o gelloedd ym 1837, gan ganiatáu i 58 carcharor gael ei gadw dan glo.

Lluniwyd rheolau newydd ynglŷn â chynlluniau carchardai, celloedd, llafur caled, carchariad unigol, lluniaeth a gweinyddiaeth pan basiwyd Deddf y Carchar 1865. Gan fod Carchar Rhuthun ddim yn cyrraedd y safonau yn y Ddeddf, sefydlwyd Pwyllgor Carchar Ruthun ym mis Ionawr 1866. Penderfynwyd adeiladu adain pedwar llawr newydd yn seiliedig ar garchar Pentonville yn Llundain i ddal cant o garcharorion.

Newid Rôl

Ar 1 Ebrill 1878, newidiodd enw a rôl y carchar o Garchar Sir Rhuthun i Garchar Rhuthun Ei Mawrhydi, ac roedd yn gwasanaethu siroedd Dinbych, Fflint a Meirionydd. Gwnaed mwy o newidiadau i adran merched y carchar, ac fe enillodd y carchar enw da. Erbyn 1904 roedd yna 81 o ddynion a 6 o ferched wedi'u carcharu yno. Bu carcharorion yn cael eu cadw yma nes iddo gael ei gau gan y Comisiwn Carchardai ym 1916 a symudwyd 13 o wardeniaid i Garchar Amwythig.

Ym 1926 prynodd Cyngor Sir Ddinbych yr adeiladau oddi wrth Gomisiynwyr y Carchar gan eu haddasu i'w defnyddio fel swyddfeydd a llyfrgell. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roeddent yn cael eu defnyddio fel ffatri arfau! Yn y blynyddoedd diwethaf addaswyd ac adnewyddwyd y carchar fel atyniad i ymwelwyr ac mae erbyn hyn yn gartref i Archifdy Sir Ddinbych.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment