Cronfeydd Dŵr Cymru
Cyflwyniad
Mae gan hanesion rhai cronfeydd dŵr gorffennol cynhennus ac wedi cael eu cysylltu â'r mudiad Cenedlaetholgar yng Nghymru a dadleuon o blaid llywodraeth i Gymru.
Dechreuodd y ddadl yn sgil dadleoli cymunedau ffermio Cymraeg eu hiaith rhwng 1880 a'r 1960au, pan foddwyd cymoedd i gyflenwi dŵr yfed i Lerpwl a Chanolbarth Lloegr. Mae dogfennaeth ynglŷn â hyn ar y wefan: Abandoned Communities - Reservoirs of Wales.
Llyn Efyrnwy
Ar ddiwedd y 1870au sylweddolodd Corfforaeth Lerpwl fod angen gwella'i chyflenwad dŵr a dechreuwyd ymchwilio yn Efyrnwy. Adeiladwyd argae garreg fawr rhwng 1881 a 1888. Dyma oedd yr argae gyntaf i'w hadeiladu gyda system o dwneli draenio y tu mewn iddi i rwystro cynnydd mewn gwasgedd o dan y sylfaen.
Mae'r argae'n argae ddisgyrchiant; hynny yw, mae disgyrchiant y Ddaear yn dal yr argae yn ei lle. Mae wedi'i hadeiladu o faint a siâp sy'n golygu na fydd yn dymchwel, llithro na mathru. Mae Argae Efyrnwy wedi'i hadeiladu mewn arddull bensaernïol Neo-Baroc ac mae 31 bwa a ffordd gerbydau ar ei brig. Mae grwpiau o bedwar tŵr ar naill ben y darn bwaog canolog, bob un gyda tho carreg pyramidaidd. Mae'r adeiledd yn 358 metr o hyd a 44 metr o uchder, ac ym 1888 hon oedd argae garreg fwyaf Prydain.
Bu angen i Gorfforaeth Lerpwl brynu deg o ffermydd a phentref Llanwddyn i gwblhau'r cynllun. Mae map Cyfres Siroedd yr Arolwg Ordnans ar gyfer Sir Drefaldwyn o 1891 yn dangos lleoliad gwreiddiol Llanwddyn. Symudwyd y trigolion i dai sydd o hyd yn bodoli ym mhentref newydd Llanwddyn o dan yr argae.
Mae'r safle nawr yn cael ei reoli gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a chwmni dŵr Severn Trent Water. Mae wedi'i ddynodi'n Warchodfa Natur Genedlaethol, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Warchod Arbennig, ac Ardal Gadwraeth Arbennig.
Cronfeydd Dŵr Cwm Elan
Roedd Corfforaeth Birmingham angen dŵr yfed ar gyfer Canolbarth Lloegr, ac felly cynlluniwyd Cynllun Dŵr Cwm Elan i'r gorllewin o Raeadr Gwy.
Ar y pryd roedd cant o drigolion yng Nghwm Elan a fyddai angen eu symud, a thirfeddianwyr yn unig a dderbyniai iawndal. Effeithiodd y cynllun ar ddeunaw o fythynnod a ffermdai, ysgol, eglwys a dau blasty. Roedd y bardd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Percy Bysshe Shelley, wedi lletya ym Mhlas Nantgwyllt ac ym Mhlas Cwm Elan cyn iddynt gael eu boddi.
Roedd hwn yn brosiect peirianneg sifil uchelgeisiol ac fe barhaodd y cyfnod adeiladu dair blynedd ar ddeg o 1893 i 1906. Prif nodweddion darn cyntaf y cynllun oedd cronfa ddŵr ac argae Caban Coch, cronfa ddŵr ac argae Penygarreg, a chronfa ddŵr ac argae Craig Goch. Mae Tŵr Y Foel yn sefyll 52 metr uwchlaw Cronfa Ddŵr Frankley yn Birmingham ac mae'r dŵr yn cael ei drosglwyddo drwy draphont ddŵr 117 cilometr o hyd. Rhwng cronfeydd dŵr Garreg Ddu a Chaban Coch mae argae Garreg Ddu'n adeiledd tanddwr sy'n edrych fel traphont ddŵr. Mae'n dal y dŵr yn ôl fel y gall gael ei echdynnu yn Nhŵr Y Foel.
Roedd y gwaith bron iawn wedi'i gwblhau pan agorwyd y cynllun yn swyddogol gan y Brenin Edward VII a'r Frenhines Alexandra ar 21 Gorffennaf 1904. Mae'r cynllun o hyd yn cyflenwi dŵr Birmingham. Rhwng 1948 a 1952 adeiladwyd argae Claerwen i ddyblu cynhwysedd y cynllun gwreiddiol i 345.5 miliwn litr o ddŵr bob diwrnod. Mae'r argae'n 56 metr o uchder ac yn cael ei chynnal gan dri bwa eliptaidd ar ddeg ac mae ganddi barapetau carreg.
Ers 1997 mae pedwar tyrbin Francis ac un tyrbin tanddwr Kaplan wedi cael eu gosod wrth draed yr holl argaeau a Thŵr y Foel. Uchafswm y cynnyrch ynni yw 4.2 megawatt.
Dŵr Cymru / Welsh Water sydd nawr yn berchen ar Stad Elan, a nhw sy'n gyfrifol am y Ganolfan Ymwelwyr, yr argaeau a'r cronfeydd dŵr, y coetiroedd a'r rhan fwyaf o Lwybr Cwm Elan. Maint y Stad yw 80 cilometr sgwâr sy'n cynnwys deuddeg Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Llyn Celyn
Cronfa ddŵr mwyaf dadleuol Cymru oedd Llyn Celyn yng Nghwm Tryweryn. Ym 1955 penderfynodd Corfforaeth Lerpwl fod angen cronfa ddŵr newydd arni am ei chyflenwad dŵr ac fe ddewisodd Cwm Tryweryn i'r gogledd o'r Bala.
Effeithiodd y lleoliad ar gymuned ffermio draddodiadol. Dyma un o'r cymunedau olaf yng Nghymru lle siaradai pobl yn Gymraeg yn unig. Byddai pentref Capel Celyn, deuddeg fferm, ysgol swyddfa bost a chapel a'i fynwent i gyd yn cael eu boddi gan y cynllun a oedd yn cael ei gynnig, (gweler y ddolen www.abandonedcommunities.co.uk). Symudwyd rhai o'r beddau o'r fynwent i bentref Llanycil, ac fe gafodd y rhai a arhosodd eu gorchuddio â choncrit.
Gwynfor Evans oedd llywydd Plaid Cymru ar y pryd ac ef oedd yn un o arweinwyr y protestiadau. Roedd rali fawr yn y Bala ym mis Medi 1956 ac ym mis Tachwedd roedd protest yn Lerpwl.
Ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl er bod gwrthwynebiad eang o nawdeg a phump o awdurdodau lleol, 210 o eglwysi, undebau llafur a sefydliadau gwleidyddol a gwirfoddol, ac oddi wrth 375 o unigolion.
Ar ddechrau'r 1960au cyfeiriwyd y protestiadau yn erbyn yr argae ei hun pan oedd yn cael ei hadeiladu. Pan agorwyd yr argae'n swyddogol ar 28 Hydref 1965 roedd gwrthdystiad gan aelodau Byddin Rhyddid Cymru. Canlyniad y protestiadau oedd cydnabyddiaeth wleidyddol fod angen i Gymru ddod yn wlad fwy annibynnol.
Yn ystod y 1950au a dechrau'r 60au, byddai'r geiriau 'Cofiwch Dryweryn' yn aml yn ymddangos mewn graffiti ar waliau ac ar beilonau. Daeth enw Tryweryn 'yn eicon o bryder cenedlaethol ar gyfer diogelu bywyd cefn gwlad Cymru a'r iaith Gymraeg' (dolen). Wrth ymyl yr A487, wrth i'r ffordd basio Llanrhystud, mae'r geiriau wedi'u hysgrifennu ar dalcen adfail tŷ. Dyma un o'r ychydig enghreifftiau o graffiti o'r cyfnod hwnnw sydd wedi goroesi, ac mae wedi cael ei adnewyddu a'i ailbeintio sawl gwaith. Yn 2009 sefydlwyd cronfa ariannol i drwsio a diogelu'r wal fel cofadail.
Mae'r gronfa ddŵr nawr yn rhan o system reolaeth Dyfrdwy ac mae dŵr sy'n cael ei ryddhau'n pasio trwy beiriannau hydro-electrig sy'n gallu cynhyrchu uchafswm o bedwar megawatt o ynni. I lawr yr afon o'r argae mae Afon Tryweryn yn cael ei defnyddio gan y Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol pan mae dŵr yn cael ei ryddhau, sy'n aml yn caniatáu chwaraeon dŵr gwyn yn ystod yr haf.
Bywyd Gwyllt a Hamdden
Gydag amser, pan mae'r cymunedau anghyfannedd wedi ail-addasu a'r dadleuon wedi pylu, mae buddion bywyd gwyllt a hamdden cronfeydd dŵr yn dod yn amlwg. Mae'r uwchdiroedd sy'n amgylchynu bob un o'r cronfeydd dŵr a grybwyllwyd yn y stori hon i gyd yn cael eu diogelu oherwydd eu hecosystemau a'u tirweddau pwysig rhyngwladol.
Yn amgylchynu Llyn Efyrnwy mae'r Ardal Ddiogelwch Arbennig (SPA) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Mae'r ardaloedd diogelwch hyn hefyd yn cynnwys Ardal Gadwraeth Arbennig (SAC) ‘Y Berwyn a Mynyddoedd de Clwyd’ a Gwarchodfa Natur Genedlaethol (NNR) Y Berwyn. Mae'n golygu bod deddfwriaeth genedlaethol a ryngwladol yn diogelu'r tir rhag datblygiad amhriodol.
Mae'r safle nawr yn cael ei reoli ar y cyd gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a chwmni dŵr Severn Tyrent Water. Mae adar yn ffynnu ar y cynefinoedd rhostir sych, coetir, gorgors a thir ffermio ac mae cuddfannau gwylio adar, llwybrau natur a chanolfan ymwelwyr gyda digwyddiadau addysgol rheolaidd.
Mae cronfeydd dŵr Cynllyn Dŵr Cwm Elan yn rhan o Ardal Ddiogelwch Arbennig (SPA) ‘Elenydd-Mallaen’, ac mae dynodiadau eraill yn cynnwys AGA Elenydd, GNG Claerwen a deuddeg gwahanol SddGA. Maint Stad Elan yw wyth deg cilometr sgwâr, a Dŵr Cymru / Welsh Water sy'n berchen arni ac sy'n gyfrifol am y Ganolfan Ymwelwyr, yr argaeau a'r cronfeydd dŵr, y coetiroedd a'r rhan fwyaf o Lwybr Cwm Elan.
Mae lleoliad Llyn Celyn o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'r tir yn union o amgylch y gronfa ddŵr yn cael ei ddiogelu gan AddA, AGA, ac SDdGA ‘Migneint-Arenig-Dduallt’. Mae SddGA Ceunant Aberderfel hefyd yn agos i'r gronfa ddŵr. I lawr yr afon o'r argae mae Afon Tryweryn yn cael ei defnyddio gan y Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol pan mae dŵr yn cael ei ryddhau, sy'n aml yn caniatáu chwaraeon dŵr gwyn yn ystod yr haf.
Mae gwylwyr adar, cerddwyr, beicwyr mynydd ac eraill sy'n gwerthfawrogi'r uwchdiroedd nawr yn aml yn ymweld ag ardaloedd cronfeydd dŵr Llyn Efyrnwy, Cwm Elan a Llyn Celyn. Caniataodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CroW) 2005 fynediad at yr amgylcheddau mynydd a rhostir sy'n amgylchynu'r cronfeydd dŵr. Byddai cynlluniau'r dyfodol ar gyfer cronfeydd dŵr yn amodol ar ddeddfwriaeth amgylcheddol a chynllunio sy'n fwy caeth a basiwyd ers y 1990au.
Ffynonellau:
Wakelin,P & Griffiths, R.A (2008)’Hidden Histories, Discovering the Heritage of Wales’ RCAHMW
www.abandonedcommunities.co.uk , by Stephen Fisk
www.elanvalley.org.uk/dams-reservoirs
www.elanvalley.org.uk/dams-reservoirs)
www.snowdoniaguide.com/llyn_celyn.htm
Claire Parry, CBHC, 2 Tachwedd 2011
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment