Skip to main content

Gwrthgodiad Casnewydd, 1839

Siartiaeth

Ar 4 Tachwedd 1839 ffrwydrodd dyheadau gwleidyddol gweithwyr de Cymru yng Ngwrthgodiad y Siartwyr yng Nghasnewydd. Roedd gweithwyr Prydain wedi bod yn aflonydd ers misoedd lawer gan eu bod mor awyddus i gael y bleidlais i'r gweithiwr cyffredin.

Datblygodd mudiad gwleidyddol Siartiaeth yn dilyn Deddf Diwygio 1832 oherwydd y siomedigaeth gyffredin yn narpariaethau'r ddeddf. Ffurfiwyd y Workingmen’s Association yn Llundain ym mis Mehefin 1836 ac ym 1838 lansiodd yr aelodau Siarter y Bobl a Deiseb Genedlaethol a oedd yn galw am newidiadau radical i'r ffordd yr oedd Prydain yn cael ei llywodraethu. Cafodd cefnogwyr y mudiad eu galw'n Siartwyr o hynny ymlaen. Ymhlith y chwe galwad a restrwyd ar Siarter y Bobl oedd etholiadau aml, seneddau blynyddol, pleidleisio cudd a'r bleidlais i ddynion dros un ar hugain oed.

Roedd Siartiaeth yn tyfu'n boblogaidd yng Nghymru, yn enwedig ymhlith gweithwyr tecstilau'r canolbarth a gweithwyr diwydiannol y de, ac yn arbennig yn Sir Fynwy lle sefydlwyd cyfrinfeydd Siartwyr ers 1837. Dechreuodd tyndra dyfu ym 1839 pan fu trafferth yn ystod cyfarfod Siartwyr yn Llanidloes ym mis Ebrill.

Tensiynau'n Codi

Roedd tyndra o fis Mai ymlaen yn nhref Casnewydd yn dilyn arestiad arweinydd y Siartwyr, Henry Vincent, am areithiau a farnwyd yn wrthryfelgar. Ym Mrawdlys Sir Fynwy ym mis Awst, dedfrydwyd Vincent i flwyddyn o garchar. Arweiniodd hyn at gyfarfod cyhoeddus mawr wedi'i drefnu gan benaethiaid y Siartwyr lleol i wrthdystio yn erbyn ei garchariad. Gwnaed cynlluniau i ymdeithio i Gasnewydd.

Yn ganolog yn nhrefniant gweithgareddau yn yr ardal oedd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones a nhw arweiniodd yr ymdaith tua Chasnewydd ar nos Sul, 3 Tachwedd 1839. Mae adroddiadau'n awgrymu y cyfarfu saith neu wyth mil o ddynion o bentrefi haearn a glo cyfagos y tu allan i Gasnewydd a dechrau ymdeithio i'r dref. Ond roedd yr awdurdodau eisoes wedi arestio sawl Siartiwr, a'u cadw yng ngwesty'r Westgate yn y dref. Aeth y dorf i'r gwesty ond roedd 28 milwr yn aros amdanynt a saethant ar y protestwyr. Credir i tua 50 o Siartwyr gael eu hanafu a lladdwyd tua 22.

Gorymdeithio ar Gasnewydd

Derbyn Cosb

Arestiwyd John Frost a hefyd tua 60 o'r Siartwyr pwysicaf a'u hanfon i sefyll eu prawf ym Mrawdlys Sir Fynwy ar 10 Rhagfyr 1839. Ym mis Ionawr 1840, cafwyd yr arweinwyr John Frost, Zephaniah Williams a Williams Jones yn euog o frad a'u dedfrydu i farwolaeth. Cafodd y ddedfryd ei ostwng i alltudiaeth am oes yn ddiweddarach. Ym 1856, yn dilyn cyfnod yn Nhasmania, cafodd John Frost bardwn a cafodd groeso arwr pan ddychwelodd i Gasnewydd.

Mae cymhellion y Siartwyr yn aneglur. Mae'n ymddangos mai'r bwriad oedd cychwyn gwrthryfel ehangach, ledled y wlad, mewn cydweithrediad â mudiadau tebyg eraill ar draws Prydain. Ond roedd eu gweithredoedd yn anghywir ac wedi'u cyflawni'n wael ac ni ddechreuodd gwrthryfel. Gwrthodwyd dwy ddeiseb arall yn ystod y 1840au, a daeth y mudiad i ben erbyn diwedd y 1850au.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment