Teganau o waith cartref
Yng Nghymru, fel mewn llawer o rannau eraill y byd yn y dyddiau cyn ffatrïoedd, roedd teganau'n eitemau ansoffistigedig, o waith cartref, wedi'u gwneud o ba bynnag ddeunyddiau crai oedd ar gael yn lleol. Pren oedd y deunydd a ddefnyddiwyd fwyaf i wneud teganau, gan y gellid ei siapio i wneud doliau, topiau troi a ratlau. Hefyd yn boblogaidd oedd bachau ac olwynion haearn a pheli wedi'u gwneud o bledrenni moch. Roedd y rhain yn gyffredin yn y cartref ac yn iard yr ysgol ac fe fyddent yn diddanu plant am oriau. Roedd berchen ar bêl yn agor y drws i gemau tîm fel rownders, pêl-law a phêl-droed, yn arbennig i fechgyn, a byddai bechgyn a merched yn rholio cylchoedd pren neu haearn, naill ai ar eu pennau'u hunain, neu mewn cystadlaethau i weld pwy allai rholio'r cyflymaf, pellaf, neu arafaf.
Trysorau
Mae teganau gwerin yn disgrifio teganau a wnaed naill ai gan y plentyn, neu gan rieni neu grefftwyr yn ôl dymuniadau'r plentyn. Yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd plant o deuluoedd tlawd, lle nad oedd arian ar gael am hanfodion bywyd, heb sôn am deganau, yn berchen ar y teganau symlaf. Ond fe fyddai'r rhain wedi cael eu trysori ac yn fodd o ddianc caledi bywyd bob dydd. Roedd tlodi'n realiti i lawer o deuluoedd yn y cyfnod hwn, ac roedd diddanu'ch hun yn angenrheidiol. Roedd plant yn falch o gynhyrchu teganau o'r nesaf peth i ddim.
Y cyfan oedd angen i greu barcud, er enghraifft, oedd ffrâm bren ysgafn a phapur, ac fe allai hyd yn oed y plentyn ieuengaf greu geffyl pren o frigyn ac ychydig o ddychymyg. Ar gyfer si-so, rhoddwyd dau blanc un dros y llall ar gasgen. Yna gallai dau blentyn eistedd ar y naill ochr, yn siglo'n hapus i fyny ac i lawr nes iddynt flino. Gellid defnyddio rhaff i sgipio, neu i ddringo drwy ei chlymu i gangen gref, a gadael y pen arall yn rhydd i'w ddringo gan y dewr a'r gwrol. I fechgyn, roedd creu'r fath eitemau â barcudiaid papur, cychod neu gatapyltiau'n arbennig o foddhaol, tra gallai merched ddefnyddio'u sgiliau gwnïo i wneud doliau clwt a darnau tŷ dol, neu chwarae siop dilledydd gan ddefnyddio clytiau.
Teganau masgynnyrch
Hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif, roedd teganau wedi'u prynu'n perthyn i'r cyfoethog yn unig. Wrth i ddulliau masgynhyrchu wella daeth mwy o deganau fforddiadwy ar gael. Newidiwyd y farchnad deganau yng Nghymru a thu hwnt. Agorwyd ffatrïoedd teganau, ac wrth i'w hymgyrchoedd marchnata a hysbysebu dod yn fwy amlwg, roeddent yn cyrraedd plant o bob cefndir cymdeithasol. Fel canlyniad daeth y tegan gwerin yn ddiwerth i'r rhan fwyaf o blant. Dyma nhw'n stopio gwneud eu teganau'u hunain a dechrau cynilo'u ceiniogau i brynu'r fersiynau siop mwy lliwgar a ffasiynol.
Er bod teganau gwerin cartref yn cael eu gweld heddiw'n hen ffasiwn ac od, yn y blynyddoedd diwethaf mae nifer cynyddol o grefftwyr wedi dechrau gwneud teganau, efallai mewn ymateb i'r nifer mawr o eitemau ffatri sy'n cael eu mewnforio i Brydain. Er gwaethaf trechedd parhaus teganau masnachol, byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod gwrthrychau o waith cartref yn fwy hudol, a phwy all wadu swynion diniwed a diamser eitemau fel pyped bys wedi'i wau neu ddoli peg dillad wedi'i pheintio? Mae unigoliaeth darnau a wnaed â llaw a'r gofal a'r amynedd a ddefnyddiwyd i'w creu yn dweud llawer mwy am y person a'u gwnaeth nag y gallai Barbie neu gêm gyfrifiadur erioed.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment