Skip to main content

'Gwas Ffyddlon Duw'

Y 'Daeargryn'

Fe ddisgrifiodd y gwleidydd David Lloyd George y mudiad fel un oedd yn "ysgwyd bywyd Cymreig megis Daeargryn" - cymaint oedd grym y diwygiad crefyddol rhwng 1904 a 1905. Canolbwynt y cyfan oll oedd y carismatig Evan Roberts a'i wên yn llawn ysbrydoliaeth ddwyfol.

Cafodd ei eni yng Nghasllwchwr ger Llanelli, a bu'n gweithio fel glöwr a gof cyn mynychu dosbarthiadau diwinyddol yng Nghastellnewydd Emlyn. Wedi i law yr Ysbryd Glân ei "gyffwrdd", rhoddodd y gorau i'w astudiaethau a dychwelodd gartref i daenu'r efengyl ymhlith ei gyd-Gymry.

Y Diwygiad yn lledu

Lledodd newyddion am y brwdfrydedd dwys yn ei gynulliadau. Ymddangosodd wyneb Roberts ar gardiau post, a byddai'r papurau newydd yn adrodd yn fanwl am ei weithgareddau. Lledodd ei ddiwygiad trwy Gymru gyfan.

Roedd Roberts yn dilyn y traddodiad Methodistiaid Calfinaidd, ac nid oedd yn weinidog na chwaith yn bregethwr. Byddai'n arwain y gynulleidfa mewn gweddi, hunanymholiad a thystiolaeth i mewn i ymwybyddiaeth ddefodol ac ecstatig yn aml o realitioedd ysbrydol. Gallai cyfarfodydd barhau am hyd at ddeng awr, yn aml yn dod i ben yn oriau mân y bore.

Effaith y Diwygiad

Yn ôl adroddiadau'r cyfnod, effeithiwyd ar batrwm byw'r gymdeithas. Cefnwyd ar y tafarndai, y theatrau cerdd a hyd yn oed y clybiau rygbi, wrth i bobl dyrru yn eu miloedd i fod yn rhan o'r diwygiad mawr. Dirwest, astudiaethau Beiblaidd a chanu emynau oedd y drefn.

Bu'r diwygiad yn gyfrifol am gynnydd aruthrol yn aelodaeth nifer o grwpiau anghydffurfiol. Roedd tua hanner poblogaeth Cymru yn mynychu'r capeli'n gyson yn ystod y blynyddoedd cyn ac union wedi'r diwygiad.

Yr Encilio

Ond, oherwydd blinder, encilio o'r llwyfan cyhoeddus oedd hanes Evan Roberts, gan droi'n fwyfwy at fywyd o weddi breifat. Bu farw'n ddisylw yng Nghaerdydd, a'r holl atgofion am ei ddiwygiad mawr wedi pylu'n llwyr.

Wedi iddi fod yn un o'r gwledydd mwyaf crefyddol yn Ewrop ar ddechrau'r ugeinfed ganrif trodd Cymru yn un o'r gwledydd lleiaf crefyddol erbyn diwedd y ganrif honno.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment