Skip to main content

Gweithwyr estron ym meysydd glo Cymru

Ffynhonnell allanol:

Ail Ryfel Byd

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, roedd galw mawr, a chynyddol, am lo. Roedd adnewyddiad a thwf yn sgil y rhyfel yn gofyn am ddigonedd o ynni rhad, a dim ond glo allai gyflenwi'r angen. Roedd angen recriwtio mwy o lowyr ar hast. Un ffynhonnell ar gyfer y rhain oedd y miloedd o bobl Ewropeaidd oedd wedi gorfod ffoi o'u gwledydd genedigol yn ystod y Rhyfel.

Er bod angen mawr am y dynion hyn ym Mhrydain, nid oedd croeso iddynt bob tro, ac roedd tipyn o wrthwynebiad o du cyfrinfeydd lleol Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Roedd mwy o anesmwythyd pan ddechreuwyd recriwtio Eidalwyr ym 1951, ac nid oedd pethau ddim gwell pan geisiodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol recriwtio ffoaduriaid o Hwngari ar ôl chwyldro 1956. Erbyn hyn daeth grŵp peirianyddol Almaenaidd,Thyssen UK, i weithio yn ne Cymru gan ddod â rhai o'u cydwladwyr gyda nhw.

Yn yr un modd â mewnfudwyr heddiw, roedd y 'gweithwyr estron' hyn yn wynebu amheuaeth i ddechrau. Roedd hyn yn deillio'n rhannol o anwybodaeth ac yn rhannol o ofn y bobl leol o ddiweithdra.

"All Poles"

Daeth y dynion ifanc hyn i Brydain ar ôl blynyddoedd o galedi, perygl a thrychineb. Cefnodd llawer ohonynt ar y maes glo cyn gynted ag y gallent, a gadawodd nifer ohonynt Brydain hyd yn oed, ond enillodd y rhai a arhosodd enw da am eu dycnwch a'u gwaith caled. Er eu bod yn dod o nifer o wledydd, y duedd oedd i'r glöwr Cymreig eu hystyried fel 'Pwyliaid pob un'. Fe briodon nhw â merched lleol ac ymgartrefu yma; ar waliau eu hystafelloedd byw yn aml fe welir lluniau o'u plant a'u hwyrion, sydd wedi eu magu fel Cymry. Mae nifer o'r rhain wedi ennill graddau prifysgol; mae nifer wedi ennill anrhydeddau dros Gymru ar y meysydd chwarae.

Er gwaethaf eu balchder yn eu mamwledydd gwreiddiol, mae'r rhan fwyaf bellach yn ystyried eu hunain yn Gymry. Yn yr un modd, dylai Cymru fod yn falch ohonynt hwythau a'r rhan y maent wedi ei chwarae yn ei hanes.

Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o gylchgrawn yn y gyfres 'Glo', a gynhyrchwyd gan Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru. "http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/glo/">Lawrlwytho'r llyfryn</a> </em></p>

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment