Yr Eisteddfod yng Nglynebwy
Glynebwy ym 1958
Y tro olaf i'r Eisteddfod ymweld ag ardal Blaenau Gwent, roedd Glynebwy'n le go wahanol i'r hyn welwn heddiw. Roedd y diwydiant dur yn dominyddu ym 1958, gyda miloedd yn cael eu cyflogi yng ngwaith dur Richard Thomas and Baldwin ar safle Eisteddfod 2010. Ers hynny, mae'r gweithfeydd dur wedi'u dymchwel, mae Gŵyl Erddi Cymru wedi bod ac wedi gadael, a heddiw mae Glynebwy'n cael ei adfywio gan fuddsoddi yn ardal y Gweithfeydd.
Bu digwyddiadau nodedig yng Nghymru ym 1958. Cynhaliwyd Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd, cynhaliwyd Rasys Nos Galan am y tro cyntaf yn Aberpennar, derbyniodd Tywysog Charles y teitl 'Tywysog Cymru' ac fe grogwyd y person olaf yng Nghymru yng ngharchar Abertawe.
Y Gadair
Roedd Eisteddfod y flwyddyn honno yr un mor nodedig. Enillydd y Gadair oedd un o hoff awduron llyfrau plant Cymru, T. Llew Jones am ei gerdd 'Caerllion-ar-Wysg'. Mewn cystadleuaeth o safon uchel, trafododd y gerdd diboblogi cefn gwlad Cymru gan Gymry ifanc ac roedd yn eu hannog i ddychwelyd i'w cartrefi i gadw traddodiadau a iaith Cymru. Mae'r frawddeg 'Tua'r Gorllewin' wedi dod yn enwog yn y frwydr dros yr Iaith yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.
T. Llew Jones
T. Llew Jones oedd un o hoff awduron Cymru ac yn un o'r mwyaf cynhyrchiol, yn difyrru cenedlaethau o blant gyda'i straeon am antur a chynllwyn. Roedd yn frodor o Geredigion, ac roedd chwedlau a chymeriadau ei ardal leol yn ddylanwad ar ei waith drwy gydol ei yrfa. Roedd ei straeon am forladron, lladron pen ffordd a sipsiwn yn swyno plant ac oedolion fel ei gilydd. Ganed T. Llew Jones ym Mhentre-cwrt ger Llandysul ym 1915 ac aeth i'r ysgol ramadeg leol. Roedd yn athro am 35 mlynedd, i ddechrau yn Ysgol Gynradd Tre-groes ac yn ddiweddarach aeth yn brifathro Ysgol Coed-y-bryn ger Llandysul. Mae'n rhaid bod treulio cymaint o amser ymhlith darllenwyr ifanc ei lyfrau wedi dylanwadu ar ei waith.
Ei nofel gyntaf oedd Trysor Plas-y-Wernen, roedd y stori am drysor a dirgelwch wedi'i lleoli yng Ngheredigion yn nodweddiadol o'r straeon dirgel a chwedlonol a hudodd dychymyg plant am gymaint o flynyddoedd. Cyfieithwyd llawer o'i straeon i Saesneg ac ieithoedd eraill, ac fe gafodd straeon fel 'Tân ar y Comin' a 'Dirgelwch yr Ogof' eu haddasu ar gyfer y teledu.
Paul Robeson
Roedd Eisteddfod 1958 hefyd yn arbennig oherwydd ymweliad yr actor, canwr ac ymgyrchydd hawliau dynol Paul Robeson. Mae sôn fod ganddo berthynas arbennig gyda phobl Cymru ac ymwelodd â Chymru pan ddychwelwyd ei drwydded deithio iddo ym 1958. Robeson a'i wraig Eslanda oedd gwesteion arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac anerchodd y dorf, gan sôn am ei gariad tuag at Gymru a dweud “Rydych wedi rhoi siâp i fy mywyd – rwyf wedi dysgu gennych”.
Heb os, fe fydd Eisteddfod Blaenau Gwent 2010 yn cynnig nifer o brofiadau cofiadwy, fel y gwnaeth dros hanner can mlynedd yn ôl.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment