Bryn-mawr
Tref ddigon cyffredin...?
Cafodd tref Bryn-mawr ym Mlaenau Gwent ei henwi'n un o'r 100 o leoedd yng Nghymru i'w gweld cyn marw gan John Davies, ac mae ganddi hanes cyfoethog a diddorol. O ddechreuad anaddawol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae'r dref yn hawlio sawl 'cais am enwogrwydd' sy'n adrodd hanes ei gorffennol amrywiol.
Mae Bryn-mawr yn gorwedd ar ben gogleddol maes glo de Cymru, ac mae'n un o ddwsinau o gymunedau a drawsnewidiwyd gan y chwyldro diwydiannol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn canol y ganrif honno, roedd casglu mwyn haearn wedi arwain at dwf y dref ac roedd y trigolion wedi arfer â'r un caledi a phroblemau â gweddill y maes glo. Mewn sawl ffordd nid oes llawer i wahaniaethu Bryn-mawr o drefi a phentrefi eraill yng Nghymru; bu Siartiaeth yn gref yn y dref, fe feirniadwyd anfoesoldeb a llygredd yno gan Gomisiynwyr y Llyfrau Gleision. Anrheithiodd colera ei thrigolion, gan arwain at sefydlu'r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru.
Uchelfannau ac iselfannau
Ond mae llawer o nodweddion sy'n gwneud Bryn-mawr yn dref hynod. Y cyntaf yw y gall hawlio ei bod y dref uchaf yng Nghymru. Yn ôl John Davies, mae'n un o'r ychydig drefi yng Nghymru nad yw wedi'i lleoli mewn cwm ac mae'i huchafbwynt yn 410 metr uwchlaw lefel y môr. Mae hyn hyd yn oed yn uwch na Buxton, tref uchaf Lloegr yn ôl pob tebyg, ac felly Bryn-mawr, gyda thua 5,500 o drigolion, yw'r dref uchaf ym Mhrydain.
Bryn-mawr hefyd oedd canolbwynt 'astudiaeth ardal ddirwasgedig' Elizabeth Jennings ‘study of a depressed area’ (1934) yn ystod y dirwasgiad rhwng y rhyfeloedd byd. Rheswm annymunol ond ansyfrdanol am ei henwogrwydd oedd bod dros 98% o'r dynion yno'n ddi-waith ym 1932, o gymharu â 67% yng Nglyn Rhedynog yng nghwm Rhondda.
Crynwyr Bryn-mawr
Mae dau reswm sy'n fwy nodedig ac anrhydeddus am enwogrwydd Bryn-mawr yn ehangach. Y cyntaf yw gwaith grŵp o'r Crynwyr a geisiodd lleddfu effeithiau diweithdra torfol yr ardal gydag arbrawf unigryw. Ym 1929 sefydlwyd menter ddodrefn yn cyflogi deuddeg o ddynion lleol heb hyfforddiant i gynhyrchu dodrefn ar gais, yn bennaf ar gyfer cwmnïau a sefydliadau eraill y Crynwyr. Cynhyrchodd ffatri fach o'r enw Gwalia Works ddodrefn a ddyluniwyd gan Paul Matt, mab a phrentis Charles Matt, saer dodrefn o wlad Pwyl a oedd wedi'i ddylanwadu gan Charles Rennie Mackintosh. Cynhyrchwyd dodrefn syml, gydag ôl dylanwad y mudiad Celf a Chrefft, a'r archeb gyntaf oedd am 400 o gadeiriau ar gyfer ysgol y Crynwyr yng Nghaerefrog, a gynhyrchwyd am £1 yr un. Heddiw mae'r dodrefn a gynhyrchwyd ym Mryn-mawr yn cael ei ystyried ymysg y mwyaf dylanwadol yn hanes dylunio a diwylliant Cymru. Dyluniwyd a gwnaed Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1938 gan seiri dodrefn Bryn-mawr.
Y ffatri fyd-enwog
Mae Bryn-mawr yn bwysig am ddyluniad arbennig arall. Ni ellir disgrifio ffatri'n 'goeth' neu'n 'brydferth' yn aml, ond cafodd cynllun ffatri rwber Bryn-mawr ei gymeradwyo ac fe gafodd ei ystyried yn un o'r adeiladau mwyaf arloesol ym Mhrydain wedi'r rhyfel. Cafodd ei ddylunio gan y Bartneriaeth Penseiri Cydweithredol a'r peiriannydd oedd Ove Arup, y prifadeiladydd o Ddenmarc a oedd yn gyfrifol am godi Tŷ Opera Sydney. Roedd y ffatri'n wagle agored anferth wedi'i gorchuddio â naw cromen goncrit denau. Cafodd ei hadeiladu fel rhan o adfywiad brys meysydd glo de Cymru wedi'r rhyfel, ond roedd adeiladu'r ffatri, er ei bod yn brydferth, yn syniad gwael. Roedd Bryn-mawr yn rhy anghysbell, ac ni ddigwyddodd y twf disgwyliedig yn y galw am rwber; ni ddaeth y ffatri erioed yn agos at gyflogi 1,000 o weithwyr fel y gobeithiwyd. Fe'i gwerthwyd i Dunlop ym 1952 ar ôl iddi fod ar agor am flwyddyn yn unig. Fe'i caewyd ym 1982 a'i chofrestri'n Adeilad Rhestredig Graddfa II gan y llywodraeth bedair blynedd yn ddiweddarach.
Yn drist iawn, tynnwyd y ffatri oddi ar y rhestr ym 1996, ac er ei fod yn un o adeiladau mwyaf nodedig Prydain wedi'r rhyfel, ac er gwrthwynebu mawr, fe'i dymchwelwyd yn 2001.
Heddiw mae galw mawr am ddodrefn Bryn-mawr ac mae casglwyr ledled y byd.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment