Skip to main content

Daniel Owen, nofelydd (1836-1895)

Magwraeth anodd

Ganed Daniel Owen yn Yr Wyddgrug ym 1836, yr ieuengaf o chwech o blant. Pan oedd yn faban cafodd ei dad a dau o'i frodyr eu boddi mewn damwain yng nglofa Argoed, ynghyd â 28 o ddynion eraill. Fel canlyniad, cafodd Owen ei fagu mewn tlodi. Ym 1851, pan oedd yn ddeuddeg oed, aeth yn brentis i deiliwr lleol, Angel Jones yn Yr Wyddgrug.

Yn ystod ei ddeng mlynedd yn siop y teiliwr dechreuodd Owen farddoni. Dylanwadwyd arno'n fawr gan ei feistr, Jones, a oedd yn aelod blaenllaw o'r Methodistiaid Calfinaidd yn Yr Wyddgrug. Gadawodd siop y teiliwr yn 24 oed i astudio i fynd i'r weinidogaeth yng Ngholeg y Bala, ond ni chwblhaodd ei astudiaethau a dychwelodd i'w dref enedigol ar ôl dwy flynedd.

Wedi iddo ddychwelyd i'r Wyddgrug, bu'n deiliwr a dilledydd rhwng 1867 a 1876, gan ddod yn weithgar ym mywyd cyhoeddus y dref ac yn pregethu ar y Sul yn rheolaidd.

Diddordeb mewn llenyddiaeth

Roedd gan Owen ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth ers ei ugeiniau cynnar ond daeth y trobwynt yn ei fywyd ym 1876 pan ddioddefodd salwch difrifol a'i rwystrodd rhag gweithio a phregethu. Dechreuodd ysgrifennu o ddifrif, gan gyhoeddi'i bregethau i ddechrau cyn symud ymlaen at straeon byr. Daeth Daniel Owen yn enwog am ei nofelau, ac fe'i cyhoeddodd fel cyfres yn y cyfnodolyn Y Drysorfa i ddechrau, ac yna fel nofelau: Offrymau Neilltuaeth (1879), Y Dreflan (1881) a Rhys Lewis (1885). 

Mae nofelau Owen yn canolbwyntio ar fywyd crefyddol, ac yn cael eu hystyried yn bortread cywir ac empathig o dyndrâu a mudiadau'r cyfnod. Fe wnaeth cryfder portreadau ei gymeriadau daro tant gyda'i gyfoeswyr ac mae wedi rhoi mewnwelediad i gyfnod a aeth drwy newid llym ac arwyddocaol i'r cenedlaethau sydd wedi dilyn.

Addysg ac adloniant

Parhaodd Daniel Owen i ysgrifennu i mewn i'w henoed, gan gyhoeddi Enoc Huws (1891), Gwen Tomos (1894) a'i waith diwethaf, Straeon y Pentan, ychydig cyn ei farwolaeth ym 1895. Ei gymhelliant fel awdur oedd cyfuno addysg ac adloniant, ac fe ddywedodd unwaith ‘Nid i’r doeth a’r deallus yr ysgrifennais, ond i’r dyn cyffredin.’

Bu farw Daniel Owen ym 1895. Dadorchuddiwyd cerflun gan Goscombe John er cof amdano yn Yr Wyddgrug ym 1902. Mae canolfan ddiwylliannol a chanolfan siopa yn y dref wedi'u henwi ar ei ôl.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment