Charles Rolls
Dechrau'r obsesiwn
Ganed Charles Rolls ar 27 Awst 1877 yn Berkeley Square yn Llundain. Ef oedd trydydd mab John Allan Rolls o Hendre, Trefynwy, Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Fynwy a ddaeth y Barwn Llangatwg cyntaf ym 1892.
Fel llawer o'i gyfoedion, roedd yn frwdfrydig ynglŷn â seiclo, ac mae'n siŵr yr oedd yn dilyn hanes gyrfaoedd pencampwyr seiclo fel y brodyr Linton. Bu'n weddol lwyddiannus yn y maes pan oedd ym mhrifysgol Caergrawnt, yn cynrychioli'r brifysgol ar y lefel uchaf. Ond yn ystod y cyfnod hwn yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, dechreuodd ymddiddori mewn ceir. Ym mis Hydref 1896, daeth Rolls yn un o'r bobl gyntaf, ac yn sicr yn un o'r ieuengaf, i berchen ar gar yn Lloegr pan fewnforiodd Peugeot a gostiodd £225.
O'r foment honno, dechreuodd obsesiwn Rolls â cheir. Wrth i derfyn uchaf cyflymder gael ei godi'n raddol o 4 m.y.a. ym 1896 i 20 m.y.a. ym 1903, prynodd Rolls gyfres o gerbydau, a daeth yn rhan o'r gamp newydd gyffrous o rasio ceir modur. Cystadlodd mewn nifer o rasys, ac enillodd adran amatur y Treial Dibynadwyedd Mil Milltir rhwng Llundain a Chaeredin ym 1900. Aeth ymlaen i gystadlu mewn rasys ar y cyfandir. Rasiodd Rolls rhwng dinasoedd mwyaf Ffrainc, Awstria a'r Almaen ac fe gynrychiolodd Prydain mewn ras ryngwladol yn Ffrainc ym 1905.
Dechrau cwmni Rolls-Royce
Arweiniodd ei obsesiwn â cheir i ffurfio beth ellid ei alw'r ddelwriaeth geir gyntaf ym Mhrydain ym 1902. Gyda chefnogaeth ariannol ei dad, sefydlodd C. S. Rolls & Co. yn Fulham ac agorodd arddangosle yn y West End ym mis Rhagfyr 1903. Dyma'r fenter a arweiniodd i'r bartneriaeth gyda'r cynhyrchwr ceir Henry Royce, a fyddai'n un o'r partneriaethau enwocaf yn hanes moduro.
Roedd y galw am y ceir yn aruthrol ac erbyn 1910 roedd y ffatri bwrpasol yn Derby yn cynhyrchu dros dri chant o geir y flwyddyn. Canolbwyntiodd Charles Rolls ar gyhoeddusrwydd, a rasio ceir Rolls-Royce mewn rasys ar draws y byd, gan arddangos pŵer a chyflymder y ceir. Ym mis Mai 1906 torrodd record Monte Carlo i Lundain mewn Rolls-Royce, ac ym mis Awst y flwyddyn honno, enillodd Rolls-Royce Tlws Tourist Trophy Ynys Manaw.
Hedfan
Roedd peirianneg fodern o bob math yn ymddiddori Rolls, a dechreuodd ymddiddori mewn awyrennau yn ei ugeiniau, a hedfanodd falŵn am y tro cyntaf ym 1901. Ef oedd cynrychiolydd Prydain yn ras falwnau ryngwladol Gordon Bennett ym 1906 ac un o'r cyntaf i hedfan gyda Wilbur Wright yn ei awyren arloesol.
Roedd Charles Rolls yn awyddus i ehangu busnes y cwmni i gynhyrchu awyrennau Wright ond gwrthodwyd y syniad yn unfrydol gan fwrdd ei gwmni ym mis Chwefror 1909. Yn wyneb gwrthwynebiad parhaus i'w awydd i fynd i mewn i'r farchnad awyrennau, ymddiswyddodd Rolls o fwrdd Rolls-Royce ym mis Ebrill 1910.
Yn y misoedd a ddilynodd ei ymddiswyddiad o'r bwrdd, parhaodd Rolls i rasio'r awyren yr oedd wedi'i mewnforio o Ffrainc. Ym mis Mehefin roedd ei enw yn y papurau newydd: roedd wedi llwyddo i hedfan dros y sianel ac yn ôl heb stopio mewn llai na dwy awr. Ond fis yn ddiweddarach, yn ystod twrnamaint hedfan yn Bournemouth, cafodd ddamwain wrth iddo ddisgyn ei awyren a cafodd ei ladd. Ef oedd y person cyntaf o Brydain i gael ei ladd wrth hedfan awyren. Mae Charles Rolls wedi'i gladdu yn Eglwys Llangatwg Feibion Afel ger Trefynwy.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment