Cadeirio Dyffryn Maelor, 1961
Derbyn y llythyr
Emrys! Emrys! Y Gadair .....
Na. Anghofia’i fyth floedd Mam yn dod o’r tŷ.
Nos Sadwrn cyn Prifwyl Rhosllannerchrugog 1961, a’r teulu newydd gyrraedd adref ar ôl gwyliau ger Rhydychen, lle roedd Dad a Mam wedi bod yn gofalu am blwyf bach gwledig Crowell fel locum, tra roedd y Ficer fan’no a’i deulu ar wyliau. Dad a minnau wrthi’n prysur wagio’r car, Glen, fy chwaer fach 7 oed, yn niwsans, a Mam wedi mynd ati i agor pentwr pythefnos o bost.
Cadw'r Cyfrinach
Ddylsai’r wŷs ddim fod wedi peri gymaint o syndod â hynny, gan i Dad ddod yn ail agos iawn i T. Llew gartref yng Nghaernarfon ddwy flynedd ynghynt. Ond, roedd y llythyr pythefnos oed yn erfyn am ateb gyda’r troad “i’n sicrhau y byddwch yn bresennol yn y seremoni”. ’Doedd ’na ddim sôn am e-bost na ffôn symudol ym 1961, a bryd hynny, doedd gennym ddim ffôn gartref. Felly yn ôl i’r car amdani, a’i throi am Fangor, lle trigai Mr Ernest Roberts, Ysgrifennydd Llys yr Eisteddfod. Dad yn cnocio, drws yn agor, a braich yn ei halio i’r tŷ, fel tasa fo wedi cael ei ddal yn dwyn falau. Wrth lwc, ’doedd Cadeirydd Mainc Ynadon Bangor ddim wedi cychwyn am y Rhos, uffern!
Codi’n gynnar fore Iau. Dillad gorau. Cofio Mam yn cynnig “’Dach i isho fi ddreifio, Emrys, rhag ofn eich bod yn nyrfys.” Cyrraedd y Maes ganol bore; cyfarchion amryw o ffrindiau: “Chdi sydd amdani leni, Emrys?” (Pa ateb mae’r bobl ’ma’n ei ddisgwyl?) Roedd Glen a minnau wedi ein siarsio, ond roedd hi’n goblyn o straen ar fachgen 14 oed a’i chwaer fach i gadw wyneb syth! Eistedd yn y Pafiliwn enfawr yn gwrando ar Tilsli yn traddodi’r feirniadaeth, ac yna William Morris yn galw ar Cymro i’r Carn i sefyll ar ei draed. Dyna beth yw atgof.
Dathlu yng Nghaernarfon
Pan gyrhaeddon ni adref gyda’r nos, roedd nodyn wedi ei roi drwy’r drws yn gofyn inni fel teulu i fynd yn syth i Faes Caernarfon. A dyna olygfa arall fydd gyda Glen a mi am byth. Roedd y maes yn orlawn! Yn ogystal â champ Dad, roedd Côr enwog Dilys Wyn hefyd wedi ennill. Wrth inni ymlwybro at y Maes, roedd criw chweched dosbarth o Ysgol Syr Hugh yn mwynhau’r achlysur. “Dyma fo!” meddai rhyw lais. A’r cyfan a welsom oedd tri neu bedwar o lafnau cyhyrog yn codi Dad ar eu sgwyddau, ac yn ei gario drwy’r dorf i gyfeiriad y Post mawr, lle roedd llwyfan dros dro wedi ei godi. Aed ati wedyn i glodfori’r ‘Brenin’ a’r Côr, ill dau wedi rhoi gwir reswm i bobl dwymgalon y Dre fyd-enwog lawenhau yng nghysgod y Castell.
Y Gadair heddiw
Ddwy flynedd yn ôl, ar ôl colli Mam, penderfynodd Glen, sy’n athrawes yn Ysgol Hooson ers 1988, a minnau y byddai’n braf pe bai’r Gadair yn cael dychwelyd i’w bro, ac ar hyn o bryd, mae’n cael lle anrhydeddus yn Ysgol Hooson, lle defnyddir hi i gadeirio’r bardd buddugol yn Steddfod yr Ysgol.
Mi fydda’ i’n meddwl yn aml be fyddai wedi digwydd pe bai Mam a Dad wedi cytuno i warchod Plwyf bach Crowell am dair wythnos!
Oes gennych chi ragor o wybodaeth neu ddelweddau yn ymwneud â'r stori yma? Ymunwch a Chasgliad y Werin Cymru, a llwythwch eich eitemau eich hun!
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment